Enw(au): Jay Smith
Lleoliad: Rhydaman
Gwefan: Mess Up The Mess
Dweud eich dweud yn yr arolwg trigolion blynyddol
Llynedd, cwblhaodd dros bedwar fil o breswylwyr lleol yr arolwg blynyddol yn dweud wrthym beth sydd fwyaf pwysig iddyn nhw a'u teuluoedd.
Defnyddiodd Cyngor Sir Caerfyrddin y wybodaeth hon i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau ar draws yr awdurdod lleol.
Rydym nawr eisiau eich help ar gyfer arolwg blynyddol eleni a hoffem i fwy o breswylwyr gymryd rhan er mwyn i ni wrando ar gynifer ohonoch â phosibl. Byddem wrth ein bodd yn gwybod sut rydych chi'n teimlo am ein perfformiad, er mwyn helpu i lunio ein penderfyniadau ar gyfer cynllunio a blaenoriaethu yn y dyfodol.
Enw(au): Jay Smith
Lleoliad: Rhydaman
Gwefan: Mess Up The Mess
Mae cwmni theatr Mess Up The Mess yn fenter gymdeithasol ddielw sydd wedi bod yn cynnal gweithdai drama cynhwysol am ddim yn Rhydaman a Dyffryn Aman ers 2007. Rydym yn gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd yn ein cymuned, gan ddefnyddio theatr a’r celfyddydau fel arfau pwerus i gynnal eu llesiant, codi eu hyder ac ymgysylltu â nhw a’u grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae pobl ifanc sy’n dod i Mess Up The Mess yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael eu hysbrydoli i fynd ymlaen i astudio ymhellach yn y coleg a’r brifysgol. Mae llawer wedi dychwelyd fel oedolion i wirfoddoli a gweithio gyda Mess Up The Mess.
Cynorthwywyd Mess Up The Mess gan gyllid y gronfa ffyniant gyffredin i wneud y canlynol:
Dysgwyd dosbarthiadau meistr mewn sgiliau creadigol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac roeddent yn cynnwys dylunio llwyfan, goleuo, ymladd llwyfan, cyfansoddi caneuon, gwneud ffilmiau a cholur effeithiau arbennig. Heb gyllid y gronfa ffyniant ni fyddem wedi gallu cynnal rhaglen mor helaeth o hyfforddiant sgiliau ochr yn ochr â’n gweithdai wythnosol craidd.
O ganlyniad i’r cyllid, mae Arts Award bellach wedi’i sefydlu ar draws ein darpariaeth, gyda phobl ifanc yn gallu cyflawni cymhwyster cydnabyddedig am eu dysgu a’u profiad gyda Mess Up The Mess.
Trwy’r prosiect, fe gyflwynon ni 16 o ddosbarthiadau meistr i 46 o gyfranogwyr gwahanol, a chefnogi 31 o wirfoddolwyr ifanc i gyfrannu 1,945 awr o wirfoddoli.
Hyfforddwyd saith aelod o staff i gyflwyno ac asesu Arts Award. Enillodd 17 o bobl ifanc wobr Arts Award ar lefel Explore, ac enillodd 23 wobr efydd. Mewn partneriaeth â Menter Bro Dinefwr, llwyddwyd i gyrraedd 26 o bobl ifanc ychwanegol a enillodd wobr Explore trwy gyfrwng y Gymraeg.