Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd
Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Cilymaenllwyd
Roedd llawer o lwybrau troed hawliau tramwy cyhoeddus yng nghymuned Cilymaenllwyd wedi’u rhwystro gan olygu nad oedd modd eu defnyddio.
Roedd gan y gymuned eisoes sylfaen wirfoddolwyr gryf a oedd wedi dechrau clirio llawer o'r llwybrau troed, ond roedd rhai o'r llwybrau troed hyn wedi’u rhwystro cymaint fel nad oedd modd eu defnyddio o gwbl ac roedd angen offer priodol a chontractwr i'w clirio. Ar ôl eu clirio, mae'r llwybrau troed hyn wedi ailgysylltu'r cymunedau yn Nyffryn Wenallt ac wedi adfer seilwaith cerdded rhwng llawer o bentrefi.
Yn ystod y prosiect cafodd 10 llwybr eu clirio a dros 10,000m² o dir ei wella gyda chymorth gan dros 40 o wirfoddolwyr newydd.