Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/03/2026
Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 15% yn 2026-27.
Yn debyg i'r cymorth dros dro a ddarparwyd yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y rhyddhad hwn yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Mae'n ofynnol i fusnesau wneud datganiad wrth gyflwyno cais i awdurdodau lleol unigol, yn cadarnhau nad yw cyfanswm y rhyddhad y maent yn cyflwyno cais amdano ledled Cymru yn uwch na'r cap hwn. Bydd y rhyddhad yn cael ei ddyfarnu gan ddefnyddio pwerau disgresiwn awdurdodau lleol, yn dilyn ceisiadau gan dalwyr ardrethi cymwys ar ôl 1 Ebrill 2026.
Mae’r Cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant yng Nghymru i ddarparu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer 2025-26. Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.
Mae mwy gwybodaeth ar gael ar gwefan Busnes Cymru.
