Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Diogelwch

Ar gyfer eiddo a godwyd neu a wellwyd yn rhan o gynllun grant a weinyddwyd gan CSC, bydd yr Awdurdod yn ceisio cofrestru buddiant yn yr eiddo a ariannwyd trwy grant gyda’r Gofrestrfa Tir trwy Gyfyngiad neu Bridiant Cyfreithiol fel a ganlyn:

  • Dylid gosod cyfyngiadau gyda’r Gofrestrfa Tir ar gyfer prosiectau neu gynlluniau sy’n derbyn grantiau yn uniongyrchol gan neu drwy’r awdurdod o £25,000 a llai ar gyfer y cyfnod sy’n berthnasol i’r rhaglen ariannu y telir y grant ar ei chyfer.
  • Rhaid gosod Pridiant Cyfreithiol gyda’r Gofrestrfa Tir ar gyfer prosiectau neu gynlluniau sy’n derbyn grantiau o £25,001 a mwy ar gyfer y cyfnod sy’n berthnasol i’r rhaglen ariannu y telir y grant ar ei chyfer.

Bydd y broses hon yn rhybuddio’r Awdurdod am unrhyw newid ym mherchnogaeth yr eiddo ac unrhyw effaith bosibl ar y telerau ac amodau a bennwyd wrth ddyfarnu’r grant. Bydd y sawl sy’n derbyn y grant yn gyfrifol am gymryd camau i godi unrhyw Gyfyngiad neu Bridiant Cyfreithiol ac unrhyw gostau sydd ynghlwm â’r broses, ar ddiwedd y cyfnod.