Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Gwaith/costau cymwys & Gwaith anghymwys

Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn goresgyn rhwystr sylweddol rhag meddiannaeth fasnachol o'r adeilad.

Bydd gwaith cymwys yn cynnwys gwaith y tu mewn, y tu allan ac yn y cwrtil o adeiladau masnachol. Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol priodol.

 

Gwaith anghymwys 

Mae’r rhain yn cynnwys: -

  • Ni fydd prosiectau preswyl yn gymwys am yr arian hwn.
  • Unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r prosiect cyn cael caniatâd.
  • Cynnal a chadw cyffredinol
  • Ffioedd cyfreithiwr
  • Ffioedd statudol gan gynnwys cynllunio, newid defnydd, caniatâd adeilad rhestredig ac ati
  • Gwaith nad yw'n cyfrannu at wella'r eiddo na goresgyn rhwystr sylweddol i'w feddiannu, gan gynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arferol.
  • Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella'r amgylchedd yn gyffredinol yn yr ardal, er enghraifft gwaith i weddluniau eiddo na fydd y cyhoedd yn eu gweld.
  • Unrhyw brosiectau sydd eisoes wedi dechrau
  • Unrhyw waith neu ffioedd cyn cymeradwyaeth Cam 1.
  • Unrhyw waith nad yw wedi cael ei gaffael yn unol â rheolau caffael trydydd parti.