Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi
Yn yr adran hon
- Osgoi gwrthdaro buddiannau
- Diogelwch
- Ad-dalu'r grant
- Gwaredu asedau
- Gweithdrefn ymgeisio
- Sut mae wneud cais
Osgoi gwrthdaro buddiannau
Gallai ymgeiswyr prosiect, neu unigolion sy’n gysylltiedig â nhw (megis perthnasau, partneriaid busnes neu gyfeillion), ddymuno tendro am gontract sy’n cael ei gynnig gan ymgeisydd y prosiect. Nid yw hyn yn annerbyniol, ond bydd angen i'r ymgeisydd sicrhau ei fod yn cynnal y trafodyn mor agored ac mor dryloyw â phosibl.
Os oes gan yr ymgeisydd, neu unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig ag ef, fudd mewn unrhyw gynnig am gontract a gynigir:
- Ni ddylai'r ymgeisydd fod yn rhan o unrhyw ran o'r broses asesu tendr h.y. agor a dewis tendrau.
- Dylai'r broses gael ei rheoli gan bensaer neu weithiwr proffesiynol â chymwysterau addas ar ran yr ymgeisydd.
- Dylai'r ymgeisydd ystyried sut y dylid cymhwyso ei ganllawiau caffael i sicrhau nid yn unig bod y weithdrefn yn deg i bob ymgeisydd ond y gellir ei gweld felly hefyd.
- Dylid cofnodi pob cam yn y weithdrefn yn ffurfiol a chadw'r cofnodion ar ffeil a'u darparu i'w harchwilio.