Grant Egni Adnewyddadwy Cymunedol Sir Gaerfyrddin

Ynni Cymunedol Sir Gaerfyrddin

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o heriau mwyaf dybryd ein hoes, gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i’n hamgylchedd, ein heconomi a’n cymdeithas. Gall gwella perfformiad ynni’r adeiladau hyn helpu i leihau costau gweithredu, cryfhau cynaliadwyedd hirdymor, a chefnogi ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ledled Sir Gaerfyrddin.

Er mwyn cefnogi sefydliadau cymunedol ar y daith hon, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig archwiliadau ynni am ddim i asedau cymunedol cymwys. Bydd yr archwiliadau yn rhoi dealltwriaeth glir i sefydliadau o'u defnydd presennol o ynni, yn nodi cyfleoedd i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon, ac yn amlygu mesurau ymarferol a all wella effeithlonrwydd a lleihau costau rhedeg. Ariennir y cymorth sydd ar gael drwy'r Gronfa Twf Lleol (LGF) i Gymru ac Egni Sir Gâr, cymdeithas ynni cymunedol a sefydlwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Gen Community Ventures.

 

Pwy All Ymgeisio?

Mae archwiliadau ynni ar gael i sefydliadau cymunedol sy'n gweithredu asedau o fewn Sir Gaerfyrddin. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy'n gallu dangos:

  • Bod eu hadeilad neu ased yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ac yn darparu budd cymunedol amlwg.
  • Eu bod wedi ymrwymo i wella cynaliadwyedd amgylcheddol eu gweithgareddau.
  • Eu bod yn barod i ystyried a gweithredu'r argymhellion a nodir drwy'r archwiliad.
  • Bod y sefydliad yn chwilio am ffyrdd o leihau costau ynni a gwella gwydnwch hirdymor yr ased.

Drwy gymryd rhan yn y rhaglen, bydd sefydliadau'n cael mewnwelediad gwerthfawr i'r ffordd y mae eu hadeiladau'n gweithredu, y cyfleoedd posibl i leihau gwariant ynni, a'r camau ymarferol a all gefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i'r sefydliad a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Er nad oes cyllid cyfalaf ar gael ar hyn o bryd, bydd sefydliadau sydd wedi cwblhau archwiliad ynni mewn sefyllfa gref i ddatblygu gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y dyfodol, a byddant wedi'u paratoi'n well i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd ariannu cyfalaf a allai ddod ar gael yn nes ymlaen.

 

Sut i wneud cais

Mae archwiliadau ynni ar gael, yn amodol ar gymhwysedd a chyllideb y rhaglen sydd ar gael.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb erbyn 5pm ar 31 Hydref 2026 fan bellaf i rdpsirgar@sirgar.gov.uk. Yn anffodus, ni fydd modd derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn.

Lawrlwytho Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb