Gwella eich band eang
Os ydych yn cael trafferth â'ch band eang, mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i'w wella. Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw cynnal prawf cyflymder. Bydd hyn yn dweud wrthych beth yw cyflymder eich band eang presennol. Pan fyddwch yn gwybod canlyniad eich prawf cyflymder, gallwch ei gymharu â'r hyn y gallech fod yn ei gael. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Ofcom. Pan fydd y prawf wedi gorffen, cliciwch ar y tab manylion i weld beth yw eich cyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol.
Awgrym defnyddiol: Cofiwch y gall nifer o bethau effeithio ar eich cyflymder weithiau. Dilynwch gynghorion a chyngor Ofcom ar sut y gallwch gwella eich cyflymder band eang gartref .
Darganfod beth allech chi fod yn ei gael...
Pan fyddwch yn gwybod beth yw eich cyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol, gallwch ei gymharu â'r hyn y gallech fod yn ei gael. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r gwiriwr argaeledd band eang ar wefan Ofcom.
Er enghraifft, os yw'r prawf cyflymder yn dangos i chi mai 15 Mbps yw eich cyflymder lawrlwytho presennol, ond mae'r gwiriwr argaeledd band eang yn dangos y gallech fod yn cael hyd at 80 Mpbs, mae hyn yn golygu y gallech fod yn cael band eang cyflymach pe baech yn uwchraddio gyda'ch darparwr band eang.
Awgrym defnyddiol: Ddim yn siŵr pa ddarparwr band eang i fynd gydag ef? Ewch i wefan Ofcom am gymorth a chyngor ar ba ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i ddewis.

Beth os na allaf wella fy mand eang?
Os ydych wedi defnyddio gwiriwr argaeledd band eang Ofcom ac nad oes band eang gwell ar gael, gallwch ddarganfod a yw eich eiddo wedi'i gynnwys mewn cynlluniau cyflwyno'r dyfodol. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Ofcom. Y cyfan sydd angen ei wneud yw nodi eich côd post.
Edrych ar gynlluniau cyflwyno'r dyfodol
Nid wyf wedi fy nghynnwys mewn unrhyw gynlluniau cyflwyno'r dyfodol, beth nesaf?
Bydd y dewisiadau amgen sydd ar gael i chi yn cael eu harddangos ar wefan Llywodraeth Cymru pan fyddwch yn edrych ar gynlluniau cyflwyno'r dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys:
- Cynllun Allwedd Band Eang Cymru – grant i ariannu costau gosod cysylltiad band eang arall.
- Os ydych yn rhan o gymuned wledig, gall cymorth fod ar gael gan Lywodraeth y DU i gysylltu â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Gall y rhai sydd â chyflymder band eang o lai na 30mbps fod yn gymwys i gael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn.
Os hoffech gael gymorth pellach ar yr hyn sydd ar gael i chi neu'ch cymuned, cysylltwch â Ceri Jenkins, Swyddog Cysylltedd Digidol drwy anfon e-bost at cejenkins@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 07929751998.