Castellnewydd Emlyn
Rhan o'r fenter y Deg Tref
Mae Castellnewydd Emlyn yn Nyffryn Teifi rhwng Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan ac mae’n enghraifft o dref farchnad draddodiadol sy’n gwasanaethu cymuned eang, a gwledig yn bennaf, ger Afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Mae’r dref yn cynnal amryw o gyflogwyr rhanbarthol mawr gan gynnwys Dairy Partners ynghyd â nifer o safleoedd diwydiannol ac iddynt raddfa meddiannaeth uchel sy’n cynnwys amrywiaeth o fusnesau gan gynnwys busnesau biotechnoleg a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae’r dref hefyd yn cefnogi’r economi wledig yn uniongyrchol trwy’r farchnad da byw a masnachwyr bwyd anifeiliaid, a busnesau peiriannau a pheirianneg cysylltiedig.
Mae diwydiannau nodedig eraill yn cynnwys adeiladu a nifer helaeth o wasanaethau a chrefftau lleol sy’n ffurfio’r economi sylfaenol. Mae’r gefnwlad wledig yn cefnogi amrywiaeth helaeth o ddiwydiannau amaethyddol a diwydiannau’r tir gan gynnwys cynhyrchwyr bwyd a busnesau twristiaeth. Mae gan ganol y dref, sy’n drawiadol a hanesyddol, gymysgedd dda o siopau a gwasanaethau a’r rheiny’n canolbwyntio’n benodol ar hwylustod, bwyd a diod a siopau arbenigol.
Y tu allan i ganol y dref, mae’r ganolfan hamdden a’r ysgol uwchradd yn adlewyrchu rôl y dref fel anheddiad allweddol yng ngogledd y sir. Yn gyffredinol, mae Castellnewydd Emlyn yn gweithredu fel cyrchfan bwysig a chanolfan wasanaethau ar gyfer anghenion cyflogaeth, cymunedol, addysg, chwaraeon a manwerthu’r ardal ehangach gan gynnwys Llangeler a Llandyfrïog.
Ein Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau Twf Economaidd yw datblygu a hyrwyddo canol unigryw, trawiadol a hanesyddol y dref fel cyrchfan fywiog i drigolion lleol ac ymwelwyr, ac adeiladu ar yr economi ymwelwyr i fanteisio ar y twf yn y farchnad gwyliau gartref. Mae gan y dref lawer o asedau, gan gynnwys ei hamgylchedd naturiol ac adeiledig hanesyddol, ynghyd â mudiadau cymunedol lleol gweithgar a lefel gynhwysfawr o gyfleusterau a gwasanaethau lleol sy’n gwasanaethu cefnwlad eang. Dyma’r blaenoriaethau strategol:
- Adferiad COVID-19
- Cefnogi twf busnesau
- Tref a chefn gwlad digidol-glyfar
- Canol y dref
- Cerdded a beicio
- Economi ymwelwyr
- Hyrwyddo Castellnewydd Emlyn
- Caffael blaengar
- Cynlluniau ynni cymunedol
- Economi gylchol
- Cartrefi fforddiadwy
Cynllun Twf Castellnewydd Emlyn