Diweddariadau a Chylchlythyrau Pentre Awel

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

 

Daeth y Nadolig yn gynnar yn natblygiad arloesol Pentre Awel yn Llanelli wrth i ysgol leol a Gwasanaethau Cerdd Sir Gaerfyrddin berfformio carolau i westeion er mwyn lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl cyn y gwyliau.

Darllen mwy yn y Newyddion.

Tachwedd 2024- Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cymorth gan asiantau eiddo masnachol, BP2 a Savills, i farchnata'r cyfleoedd i fusnesau a sefydliadau brydlesu lle yng ngham cyntaf prosiect Pentre Awel. 

Darllen mwy yn y Newyddion.

Mae'r prosiect arloesol, a lansiwyd ar 7 Tachwedd 2024, yn gweithio gyda 6 ysgol gynradd yn Llanelli i gyflwyno rhaglen addysgol ymgollol wedi'i theilwra sy'n canolbwyntio ar y strategaeth newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.

Bydd Pentre Awel yn cynnal dwy sesiwn galw heibio ddydd Mercher 16 Hydref 2024 rhwng 10am a 1pm (sesiwn bore i brynhawn) a rhwng 5pm a 7pm (sesiwn gyda'r nos) yng Nghlwb Cymdeithasol y Morfa i ymgysylltu â'r gymuned leol yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Darllen mwy yn y Newyddion.

Mae’r contractwr adeiladu Bouygues UK, mewn partneriaeth â Buckingham Pools, wedi adeiladu dau bwll amlbwrpas ym Mhentre Awel, Llanelli. Mae'r pyllau'n cynnig cyfleusterau hamdden o safon fyd-eang i'r gymuned leol.

Darllen mwy yn y Newddion.

Cynhaliodd Cyngor Sir Gâr a Bouygues UK ddigwyddiad i ddathlu hysbysfyrddau newydd sbon a ddyluniwyd gan fyfyrwyr Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn y datblygiad newydd o fri, Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Darllen mwy yn y Newyddion.

Mae canolfan gyflogaeth Pentre Awel Bouygues UK ac Acorn by Synergie wedi creu nifer o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu ar y prosiect nodedig yn Sir Gaerfyrddin.

Darllen mwy yn y Newyddion.

 

Daeth timau pêl-droed o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau ynghyd i fynd i'r afael â digartrefedd yng ngŵyl bêl-droed stryd gyntaf Chwaraeon a Hamdden Actif yn Llanelli.

I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion.

Bu Tom Reed, sy’n rheolwr safle cynorthwyol Bouygues UK ac un o gyn-brentisiaid Cyfle, yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau gydag ymweliad â Choleg Sir Gâr yn Rhydaman i gwrdd â’r grŵp presennol o brentisiaid sy’n dysgu am y byd adeiladu.

I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion

Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi nodi 12 mis o adeiladu prosiect nodedig Pentre Awel trwy gwblhau strwythur dur Parth cyntaf y datblygiad.

 

I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion

Llwythwch mwy