Traeth Pentywyn
Mae traeth tywodlyd gwych Pentywyn, sy'n ymestyn am 7 milltir, wedi bod yn denu ymwelwyr ers cenedlaethau. Mae ganddo bwynt gwerthu unigryw gan eich bod yn gallu gyrru car ar y traeth ac mae'n denu ymwelwyr sy'n ceisio torri record cyflymder y byd ar dir (gan gynnwys ceir, beiciau modur a siediau!)
Mae mewn man delfrydol rhwng ein tref sirol Caerfyrddin ac un o gyrchfannau twristiaeth mwyaf poblogaidd y DU, sef Dinbych-y-pysgod.
Mewn datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y gyrchfan gyfan, yn gyntaf gwnaethom gwblhau promenâd 500m di-draffig ac adeiladu canolfan fasnachol Parry Thomas gydag amrywiaeth o fusnesau, yn amrywio o siop llogi caiacau, coffi a hufen iâ i fwyty hynod boblogaidd ar y llawr cyntaf.
“Caban" - llety a chaffi ar lan y môr
Roedd y datblygiad enghreifftiol hwn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn darparu llety gwyliau a chaffi pwrpasol sy'n edrych dros y traeth euraidd eiconig sy'n ymestyn am 7 milltir.
Mae'r llety deulawr sydd â 14 o ystafelloedd gwely yn gwneud y mwyaf o'r golygfeydd o'r traeth a'r môr ac mae'n berffaith i'r rheiny sydd am grwydro Llwybr Arfordir Cymru neu sydd am fwynhau un o'r digwyddiadau niferus sy'n cael eu cynnal ar y traeth fel y digwyddiad blynyddol gyda'r Hot Rods.
Mae'r cyfleusterau'n cynnwys caffi, toiledau a chyfleusterau newid hygyrch ynghyd ag ystafelloedd gwely sy'n wych i deuluoedd a chyplau.
Yr Amgueddfa Cyflymder
Cafodd yr amgueddfa newydd ei hadeiladu'n bwrpasol yn 2023 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru gan gymryd lle'r hen gyfleuster yn ei gyfanrwydd. Mae'n cynnig profiad drwy amrywiaeth o arddangosion rhyngweithiol modern, gan gynnwys arddangosion mewn ogof fideo a rhai mewn canolfan ddigidol ar lawr mesanîn â'i olygfeydd panoramig trawiadol o'r traeth yn ogystal ag arteffactau o'r gorffennol - sef y cerbydau anhygoel sydd wedi cyrraedd y llyfrau hanes.
Mae'r traeth anhygoel hwn yn llawn hanes gan fod llawer o recordiau cyflymder ar dir wedi'u torri yno. Yr enwocaf o bosibl yw Syr Malcolm Campbell ym 1923 yn ei gar o'r enw "Blue Bird" a J.G Parry Thomas yn ei gar o'r enw “Babs”. Ers hynny, mae ymdrechion i dorri recordiau cyflymder ar dir yn dal i gael eu gwneud ar y traeth hwn (o siediau i feiciau modur), digwyddiadau rhyngwladol (o geir clasurol i 'Hot Rods' Americanaidd) ac mae'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan gwmnïau ffilm a theledu (o Top Gear i Idris Elba).
Mae archebion gan unigolion a grwpiau yn cael eu croesawu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cofgar.
Gwelliannau ychwanegol i'r gyrchfan a'r cyfleusterau
Roedd gwelliannau ychwanegol yn cynnwys ardal chwarae fawr i blant yn yr awyr agored, lle parcio, mynediad, loceri i feicwyr a gwaith tirlunio gan gynnwys creu gerddi.