Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu

3. Trawsnewid Tyisha

Mae gan Dyisha gymuned gref ond mae wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf o ardaloedd o ddirywiad ôl-ddiwydiannol. Mae gan yr ardal broblemau cymdeithasol, economaidd a ffisegol ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy.

Yn ystod haf 2018, cychwynnwyd ar yr ymarfer 'Planning for Real' lle wnaethom gasglu barn preswylwyr a busnesau lleol a oedd wedi ein helpu i nodi'r materion allweddol y mae Tyisha yn eu hwynebu.

Dywedodd y gymuned wrthym ei bod am weld gweithredu yn y meysydd canlynol:

  • Diogelwch cymunedol
  • Yr amgylchedd
  • Hamdden ac adloniant
  • Tai
  • Traffig a thrafnidiaeth
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Iechyd a llesiant
  • Gwaith, hyfforddiant, sgiliau ac addysg

Rydym wedi gwrando ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned i drawsnewid Tyisha.

Mae'r gwaith yn dod ymlaen yn dda drwy Grŵp Llywio Cymunedol (partneriaeth amlasiantaethol rhwng y Cyngor, y gymuned a rhanddeiliaid allweddol eraill) sydd wedi galluogi nifer o brosiectau i fynd yn eu blaen a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Rydym am barhau i gyflawni'r amcanion hyn drwy gydol oes y prosiect ac rydym yn gwahodd y partner datblygu ynghyd â'n partneriaid eraill i'n helpu i gyflawni'r nodau hyn.

Ffeithiau allweddol

  • Mae gan yr ardal y dwysedd poblogaeth uchaf yn Sir Gaerfyrddin, gyda 6,586 o bobl fesul cilomedr sgwâr
  • Y grŵp demograffig mwyaf yn Nhyisha yw 45-64 oed
  • Nid oes gan 34% o'r rhai 16-74 oed unrhyw gymwysterau
  • Mae gan 27% salwch tymor hir cyfyngol
  • Mae 63% o gartrefi yn dai teras a 25% yn fflatiau
  • Mae 37% yn rhentu eu cartref
  • Yr incwm cyfartalog yw £17,981
  • Mae diweithdra ddwywaith y gyfradd o gymharu ag ardaloedd eraill yn Sir Gaerfyrddin
  • Tyisha 2 yw'r mwyaf difreintiedig yn y sir a'r 55fed yng Nghymru

Y nod yw darparu gwasanaethau lleol o'r radd flaenaf ynghyd â goruchwylio'r gwaith o ddarparu cartrefi newydd mewn amgylchedd gwell, glanach a mwy cydnaws â'r amgylchedd. Rydym hefyd am ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu statws cymdeithasol ac economaidd yr ardal ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Drwy godi ymwybyddiaeth o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud gwelliannau ar draws Tyisha i leihau lefelau, bydd y gymuned yn teimlo'n fwy diogel ac yn dyheu am aros a ffynnu yn eu ward. Bydd hefyd yn dod yn lle a fydd yn denu cyfleoedd buddsoddi newydd.

Rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar wella iechyd ar draws y ward a gellir cyflawni hyn drwy ddarparu mentrau a chynlluniau modelau iechyd. Gan fod amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd yn dylanwadu ar ddewisiadau iechyd, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae angen i ni gryfhau gwasanaethau allgymorth a chynnig cyfleoedd i'r rhai sydd â salwch hirdymor wella eu hamgylchedd a’u hansawdd bywyd.