Caerfyrddin

 

Saif tref farchnad Caerfyrddin, tref hynaf Cymru yn ôl pob sôn, ar Afon Tywi, un o afonydd hiraf Cymru. Gyda phoblogaeth o 9,100, mae mwyafrif y boblogaeth yn perthyn i'r grŵp oedran 30-45. Mae lefelau amddifadedd a diweithdra yn debyg i gyfartaleddau Cymru a Sir Gaerfyrddin.

Tref farchnad sy’n ymfalchïo yn ei gallu i gyfuno'r hanesyddol â'r modern, sy’n golygu y gall gystadlu fel atyniad siopa mawr, wrth barhau i roi sylw i'r gorffennol sy’n llawn cynnwrf a myth. Yn ôl y chwedl Gymreig, credir mai Caerfyrddin yw man geni’r dewin enwog Myrddin, sy’n chwarae rhan arwyddocaol mewn mytholeg Arthuraidd a chyda chastell a gipiwyd gan Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr, mae Caerfyrddin yn amlwg ar unrhyw fap hanesyddol.

Mae gan Gaerfyrddin farchnad brysur sydd wedi bod yn gweithredu ers canrifoedd, gan gynnig amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys cynnyrch lleol, crefftau, a hen bethau. Gyda chymysgedd o siopau bach, siopau cadwyn, sinema, theatr, gwestai a bwytai mae Caerfyrddin yn lle gwych i siopa, bwyta ac aros.

Darganfod Caerfyrddin

Cynllun Creu Lleoedd Caerfyrddin

Cafodd ein Prif Gynlluniau Adfer blaenorol eu creu yn ystod cyfnod o angen brys a hynny yn dilyn pandemig byd-eang.

Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i'n cymunedau symud ymlaen, rydyn ni'n edrych o'r newydd ar sut y gall canol ein trefi ffynnu yn y tymor hir. Mae'r Cynlluniau Creu Lleoedd newydd yn canolbwyntio ar greu lleoedd bywiog, croesawgar sy'n cefnogi busnesau lleol, yn dathlu ein treftadaeth, ac yn diwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd y cynllun creu lleoedd hwn yn cefnogi rhanddeiliaid allweddol Caerfyrddin i wneud cais am gyllid gan gyrff cyllido, a fydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd gan bob un o randdeiliaid Caerfyrddin ran i’w chwarae wrth gyflwyno’r cynllun creu lleoedd hwn. 

Cyllun creu lleoedd caerfyrddin

Cronfa Adnewyddu Canol Trefi

Mae'r Gronfa yn cynnig hyd at £2 fesul eiddo, tuag at 80% o'r costau cymwys, i wella tu blaen siopau a gwneud canol trefi yn fwy deniadol. Gall rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid eiddo yng nghanol trefi wneud cais am gyllid i gefnogi amrywiaeth o welliannau gan gynnwys addurno allanol, paentio, gosod goleuadau, glanhau cwteri a mwy. Drwy wella golwg eiddo masnachol, nod y gronfa hon yw creu strydoedd mwy deniadol a chroesawgar sydd o fudd i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dyma ddetholiad o fusnesau y mae eu hadeiladau wedi elwa o'r cyllid a gynigir gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi.

1 -  Zen Club

Mae Steadman Jones and Bell wedi cael cymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wella eu hadeilad. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £1,802.87, dyfarnwyd dyraniad grant o £1,442.30 i'r busnes (cyfradd ymyrraeth o 80%). Helpodd y cyllid hwn i gyflawni gwelliannau sy'n cyfrannu at amgylchedd mwy deniadol a chroesawgar, gan gefnogi bywiogrwydd canol y dref.

2 - CWRW

Mae'r bar cwrw crefft a chelfyddydau creadigol lleol, CWRW, sydd wedi'i leoli yn 32 Heol y Brenin wedi cael cymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwelliannau allweddol i'r adeilad. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £2,700.00, dyfarnwyd dyraniad grant o £2,000.00 i'r prosiect (cyfradd ymyrraeth o 74.07%). Mae'r uwchraddiadau hyn yn helpu i wella ymddangosiad yr adeilad ac yn cyfrannu at adfywio canol y dref yn ogystal â helpu'r bar i fod yn amlwg.

3 - James Music

Wedi'i lleoli yn 4 Maes Nott, mae'r siop gerddoriaeth leol hon wedi elwa o'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwaith adnewyddu i'w ffasâd. Gyda chyfanswm cost y prosiect o £1,484.00, cafodd y prosiect ddyraniad grant o £1,187.20 (cyfradd ymyrraeth o 80%). Mae'r gwelliannau hyn wedi gwella ymddangosiad yr eiddo ac wedi cyfrannu'n gadarnhaol at fywiogrwydd canol y dref.

4 - Furrifingers

Mae gwneuthurwyr pypedau lleol, FurriFingers, wedi cyflawni gwelliannau i'w huned yn 3 Maes Nott, gyda chymorth drwy'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £1,350.00, dyfarnwyd dyraniad grant o £812.80, sy'n cynrychioli gweddill yr uchafswm dyfarniad grant. Mae gwelliannau i'r tu allan wedi atgyfnerthu presenoldeb brand y busnes ac wedi creu ffryntiad caboledig, sy'n croesawu cwsmeriaid.

5 - The Rose and Crown Inn

Cafodd y Rose and Crown Inn, sydd wedi'i leoli yn 117 Heol Awst, gymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wneud gwelliannau i'r eiddo. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £5,333.42, dyfarnwyd dyraniad grant o £1,826.51 i'r prosiect (cyfradd ymyrraeth o 34.25%). Mae'r gwelliannau wedi gwneud yr adeilad yn fwy croesawgar, gan gefnogi argraff gyntaf gadarnhaol i gwsmeriaid.

Ymyrraeth Landlordiaid Allanol


Wedi'i lansio yn 2024, mae cynllun grant wedi'i dargedu o £130,000 yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, gan helpu i drawsnewid unedau gwag yn fannau busnes ffyniannus.

 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae wedi dod â 15 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy brydlesi tymor byr, gan roi cyfle i entrepreneuriaid a busnesau bach dreialu eu mentrau yn adeiladau canol y dref.

 

 

 

 

Eiddo Gwag

Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin unrhyw eiddo yng nghanol tref Caerfyrddin ar gael i’w brydlesu, cysylltwch â ni yn y dyfodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gwelwch y rhestr lawn o eiddo'r Cyngor ar brydles ar draws y sir yma.

Manylion Cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin

Os hoffech gysylltu â'r awdurdod ynglŷn â Chanol Tref Caerfyrddin, mae croeso i chi gysylltu â’n swyddogion sy’n gyfrifol am y ganolfan a byddant yn fwy na pharod i helpu:

trefi@sirgar.gov.uk

Hwb