Rhydaman

 

Rhydaman, a elwid gynt yn Cross Inn, yw'r dref drydedd fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae ganddi boblogaeth o 5,400. Mae proffil oedran Rhydaman ychydig yn iau na'r cyfartaledd ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae lefelau amddifadedd a diweithdra yn Rhydaman ychydig yn uwch na chyfartaleddau Cymru a Sir Gaerfyrddin. Er gwaethaf yr amddifadedd yn yr ardal mae'r dref yn parhau i annog cymuned ffyniannus. 

Gwelodd yr aneddiad gwledig tawel hwn newid diwydiannol gyda’r diwydiant mwyngloddio yn denu gweithwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a heddiw mae cerflun yng nghanol y dref er cof am y glowyr a hanes y dref. Mae gan ganol y dref nifer fawr o fusnesau annibynnol ar gyfer economi'r dydd a'r nos. Mae Rhydaman yn dal record byd Guinness ac yn ddiweddar mae wedi dechrau ar ei 21ain flwyddyn fel tref Masnach Deg, y gyntaf i wneud hynny yng Nghymru.

Darganfod Rhydaman

Cynllun Creu Lleoedd Rhydaman

Cafodd ein Prif Gynlluniau Adfer blaenorol eu creu yn ystod cyfnod o angen brys a hynny yn dilyn pandemig byd-eang.

Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i'n cymunedau symud ymlaen, rydyn ni'n edrych o'r newydd ar sut y gall canol ein trefi ffynnu yn y tymor hir. Mae'r Cynlluniau Creu Lleoedd newydd yn canolbwyntio ar greu lleoedd bywiog, croesawgar sy'n cefnogi busnesau lleol, yn dathlu ein treftadaeth, ac yn diwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd y cynllun creu lleoedd hwn yn cefnogi prif randdeiliaid Rhydaman i ymgeisio am gyllid gan gyrff ariannu gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd gan bob un o randdeiliaid Rhydaman ran i’w chwarae wrth gyflwyno’r cynllun creu lleoedd hwn.

Cynllun creu lleoedd Rhydaman

Cronfa Adnewyddu Canol Trefi

Mae'r Gronfa yn cynnig hyd at £2 fesul eiddo, tuag at 80% o'r costau cymwys, i wella tu blaen siopau a gwneud canol trefi yn fwy deniadol. Gall rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid eiddo yng nghanol trefi wneud cais am gyllid i gefnogi amrywiaeth o welliannau gan gynnwys addurno allanol, paentio, gosod goleuadau, glanhau cwteri a mwy. Drwy wella golwg eiddo masnachol, nod y gronfa hon yw creu strydoedd mwy deniadol a chroesawgar sydd o fudd i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dyma ddetholiad o fusnesau y mae eu hadeiladau wedi elwa o'r cyllid a gynigir gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi.

 

1 - Steadman Jones and Bell

Mae Steadman Jones and Bell wedi cael cymorth gan y Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i wella eu hadeilad. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £1,802.87, dyfarnwyd dyraniad grant o £1,442.30 i'r busnes (cyfradd ymyrraeth o 80%). Helpodd y cyllid hwn i gyflawni gwelliannau sy'n cyfrannu at amgylchedd mwy deniadol a chroesawgar, gan gefnogi bywiogrwydd canol y dref.

2 - Shaan Tandoori

Mae'r eiddo yn 32 Stryd y Cei wedi elwa o'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi i gefnogi gwaith gwella. Gyda chyfanswm costau'r prosiect o £2,895.00, dyfarnwyd dyraniad grant o £2,000.00 (cyfradd ymyrraeth o 69.08%). Yn sgil y cyllid roedd modd gwneud gwaith uwchraddio i wella ymddangosiad yr adeilad, gan gyfrannu at apêl gyffredinol canol y dref.

Ymyrraeth Landlordiaid Allanol

Wedi'i lansio yn 2024, mae cynllun grant wedi'i dargedu o £130,000 yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, gan helpu i drawsnewid unedau gwag yn fannau busnes ffyniannus. 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae wedi dod â 15 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy brydlesi tymor byr, gan roi cyfle i entrepreneuriaid a busnesau bach dreialu eu mentrau yn adeiladau canol y dref. 

  • 26 Stryd y Cei (Ammanford Nails)

Eiddo Gwag

Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin unrhyw eiddo yng nghanol tref Rhydaman ar gael i’w brydlesu, cysylltwch â ni yn y dyfodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gwelwch y rhestr lawn o eiddo'r Cyngor ar brydles ar draws y sir yma.

Manylion Cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin

Os hoffech gysylltu â'r awdurdod ynglŷn â Chanol Tref Rhydaman, mae croeso i chi gysylltu â’n swyddogion sy’n gyfrifol am y ganolfan a byddant yn fwy na pharod i helpu:

Trefi@sirgar.gov.uk

Hwb