Siop Allanol 2 Marchnad Caerfyrrdin
Marchnad Caerfyrddin, SA31 1QY

Subject to tender

Manylion Allweddol

Mae gan y siop lecyn masnachu sydd wedi ei lleoli ym Marchnad Caerfyrddin, oddeutu 16.8 medr sgwar o ran maint, ac mae'n addas at nifer o ddibenion.

Rydym eisiau creu Farchnad amrywiol, ac er nad ydym yn dymuno atal cystadleuaeth, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau am gael stondiniau ar gyfer rhyw ddiben penodol os bydd gormod o stondinau tebyg eisoes. O ganlyniad, ystyrir tendrau ar sail defnydd arfaethedig yn ogystal ag ar sail lefel rhent a ffactorau eraill.

Fyddwn a diddordeb clywed wrth masnachwyr cynnyrch ffres.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael ffurflen gais ar gyfer tendr, cysylltwch a Eifion Evans, Rheolwr Marchnad Caerfyrrdin, Swyddfa'r Farchnad. Ffoniwch 01267 228841 neu e-bostiwch eevans@sirgar.gov.uk

Dyddiad cau

Dylid dychwelyd tendrau yn yr amlenni swyddogol a ddarperir, erbyn CANOL DYDD, ddydd Mawrth 1 Ebrill 2025. 

Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i gymryd y tendr uchaf, nac unrhyw dendr a gyflwynir.

Mr Simon Davies
Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo
Cyngor Sir Gar
Neuadd Y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP