Hysbysebu ar gylchfannau
Buddion
- Marchnata cost-effeithiol i filoedd o gwsmeriaid 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.
- Meithrin ac atgyfnerthu delwedd gadarnhaol wrth i'ch cyfraniad gael ei ystyried i helpu i wella amgylchedd lleol Sir Gaerfyrddin
- Cysylltiad cadarnhaol â'r sefydliad mwyaf yn y Sir, meithrin delwedd gorfforaethol ac atgyfnerthu hygrededd gyda chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- Dull hyrwyddo arloesol yn newydd i Sir Gaerfyrddin
- Achrediad ar brif wefan y Cyngor Sir sy'n cael llawer o ddefnydd
Lleoliad cylchfannau presennol
- Penprys, Llanelli
- Llangennech, Llanelli
- Heol Las, Caerfyrddin
- Lôn Morfa, Caerfyrddin
Sut mae’n gweithio?
- Mae pob safle traffig yn cael ei neilltuo i un cwmni yn unig
- Bydd cylchfannau yn arddangos arwydd ar gyfer pob ffordd sy'n arwain tuag at y safle, sydd ar gael am o leiaf 12 mis.
- Mae'r gost yn daladwy naill ai'n llawn ar adeg yr anfoneb, neu mewn 12 rhandaliad misol di-log drwy ddebyd uniongyrchol.
- Mae'r pris yn cynnwys yr holl gostau gwaith celf, gweithgynhyrchu a gosod.
- Bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod am ddim yn lle unrhyw arwyddion sy'n cael eu difrodi
Beth gallaf ei roi ar yr arwyddion?
- Gallwch arddangos enw/logo eich cwmni, ynghyd â neges fusnes fer a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad gwefan, cyfeiriad lleoliad. Ni ellir defnyddio unrhyw saethau ac ni chaniateir i'r cynnwys ddynwared arwyddion priffyrdd rhagnodedig.
- Gallwch arddangos dyluniad gwaith celf gwahanol ar bob un o'r arwyddion, gan eich galluogi i dargedu pob ffordd fynediad gyda neges / gwasanaeth amgen os dymunir.
- Mae pob arwydd CYLCHFAN yn cynnwys rhan ar draws y gwaelod a ddyrennir i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n ofyniad cyfreithiol.
Beth yw maint yr arwyddion
Cyfnewidfeydd traffig mawr sy'n rhychwantu sawl ffordd fawr sy'n ffurfio cyffyrdd mawr i mewn ac allan o'r ddinas. Mae'r safleoedd hyn yn brif bwyntiau cysylltu yn y Sir ac yn cynnig potensial mawr ar gyfer targedu ymwelwyr, cymudwyr a phreswylwyr.
Cylchfannau canolig ar brif lwybrau cysylltu ledled y Sir. Mae'r rhain yn safleoedd uchel eu proffil, a fydd yn hawdd eu gweld mewn ardaloedd a ddefnyddir gan lefel sylweddol o draffig. Maent yn ddelfrydol ar gyfer targedu marchnadoedd preswyl