Camau i Gynnydd
Ymgeisydd y prosiect: Cymuned Wallich Clifford
Teitl y prosiect: Camau i Gynnydd
Rhaglen Angor: Cronfa Cyflogadwyedd
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae'r prosiect yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar gryfderau, ac mae’n cyfuno dysgu a chymorth gan fentor i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gyfranogiad i bobl sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, er mwyn helpu unigolion i gael gwaith neu swyddi â chyflogau gwell.