Canolfan Llwynhendy

Enw: Darren Rees

Rôl: Swyddog Datblygu Cymunedol, Cyngor Gwledig Llanelli

Lleoliad: Llwynhendy, Llanelli

Gwefan: www.facebook.com/LlwynhendyHub

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Gallwch chi gredu nad oedd canolfan gymunedol gyda ni yn Llwynhendy o’r blaen?! O’dd digon o gartrefi a busnesau ‘ma, ond do’dd dim unman pwrpasol gyda’r trigolion i gwrdd â’i gilydd. Ro’dd rhai grwpiau’n defnyddio ystafell yn yr ysgol, eraill yn mynd i glwb y gweithwyr; ond do’dd y trefniadau rheini ddim yn addas i bawb.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Fe wnaethon ni dderbyn cyllid o’r Loteri Genedlaethol i adnewyddu adeilad yr hen lyfrgell – sydd yn nawr gartre’ i Ganolfan Llwynhendy - peth amser yn ôl. Roedd angen cyllid arnom ni i ddodrefnu’r lle a’i wneud yn ddeniadol ac yn ddefnyddiadwy. A dyna siwd helpodd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ni. Dyfarnwyd cyllid i brynnu cadeiriau, byrddau, adnoddau cynadledda, taflunydd, sgrîn a system sain hefyd. Nawr, fyddwn ni’n gallu gwireddu’n gweledigaeth ni o fod yn atyniad i bobl a’u bywydau. Ma’ grwpiau ‘Llwynhendy Ni’, ‘Tŷ Enfys’ a ‘Pro-vision Llwynhendy’ wedi cwrdd yma’n barod. Cyn bo’ hir, ry’ ni’n bwriadu agor caffi, clwb ieuenctid, a bod yn ganolfan lle gall y gymuned gael cyngor am swyddi a chartrefi. A thu fas wedyn bydd parc chwarae i blant a lle i deuluoedd gael picnic.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau/ gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Mae’n lleoliad perffaith i Ganolfan Llwynhendy – mas o ffordd yr heol fawr, ond yng nghanol y pentre’. Yn barod ry’n ni wedi gweld y lle’n dod yn fyw gyda disgo Calan Gaeaf i blant. Ac adeiladau ar yr ymdeimlad o berthyn a chymuned y gwelon ni yma bryd hynny yw’n gobaith ni. Gobeithio bydd y llyfrgell ddigidol sy’ yma eisoes yn abwyd i’r rhai sy’n ei defnyddio hi, i ddychwelyd a defnyddio’r ganolfan mewn ffyrdd eraill hefyd. Efallai mai’r ffordd orau i ni esbonio bod y ganolfan gyfforddus hon gyda’i  hadnoddau gwych yn ysbrydoli, yw rhannu’r ffaith bod un o’r pentrefi cyfagos wedi cysylltu i holi sut gallan nhw gael adnodd tebyg! Mae’n ymddagnos bod effaith ein canolfan ni yn ymestyn tu hwnt i’w chymuned yn barod!
Hwb