Hwb Hebron Drefach

Enw: Nerys Burton

Rol: Swyddog Ieuenctid a Datblygu Cymuned Capel Seion

Lleoliad: Drefach, Cwm Gwendraeth

Wefan: www.hebrondrefach.org

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Ro’n ni am geisio dylanwadu ar ffordd o fyw i ddweud y gwir. Dyna o’dd ein man cychwyn wrth fynd at i geisio siapio dyfodol newydd i’r hen festri capel.
Hebron o’dd y festri, ac o’dd hi’n perthyn i gapel Seion, Drefach. Ro’n ni’n teimlo bod angen enw ffres ar gyfer pennod ffres yn ei hanes, a dyma benderfynnu ar Hwb Hebron.
Dyw’r festri ddim bellach yn adeilad sy’n mynd ar ei waethaf – mae’n gaffi ac yn ganolfan cyfryngau i bob pwrpas hefyd.
Er bod antur newydd yn gwawrio yn Hwb Hebron, mae’r cyswllt gyda thraddodiadau’r gorffenol yn amlwg wi’n credu hefyd. Oherwydd cyfoethogi a chynnal cymuned, a rhoi blas ar fyw oedd bwriad gweithgareddau’r Ysgol Sul bu’n ffynnu yn Hebron s’lawer dydd hefyd wrth gwrs.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Diolch i gyllid o’r Cronfa Ffyddiant Gyffredin y DU, mae cegin broffesiynol wedi ei gosod ac offer cyfryngau wedi eu prynnu yn Hwb Hebron.
Y weledigaeth glir yw bod yn adnodd defnyddiol fydd yn gweithredu dros cymuned gyfan.
Ro’dd sicrhau’r arian o Gronfa Ffyddiant Gyffredin y DU i  wireddu Hwb Hebron yn lot o waith. Ond fe gethon ni gefnogaeth tîm ffantastig o Gyngor Sir Gâr, ac ma’n diolch ni iddyn nhw yn fawr iawn.
Ac wrth gwrs, fe roddodd y dasg o adfywio Hebron waith i gwmnïau lleol. A gobeithio bydd creu cyfleoedd gwaith yn rhywbeth byddwn ni’n parhau i wneud yn y dyfodol. Bydd y ganolfan yn meithrin sgiliau cyfryngau, felly gobeithio aiff rhai o’n pobl ifanc ni ymlaen i weithio yn y diwydiant creadigol. Ma’ traddodiad da yn yr ardal ‘ma o fagu unigolion sy’ wedi cyfrannu i’r diwydiannau creadigol a diwyllianol.

Dyma siwd y’n ni’n gobeithio  y bydd Hwb Hebron yn gwireddu’r weledigaeth o ‘ddylanwadu ar ffordd o fyw’ - trwy fynd â thraddodidau a safonau o’i gorffenol i’r dyfodol.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?
Yn un o nosweithiau cynta’r clwb ieuenctid newydd yn ddiweddar, daeth merch ifanc leol ato ni. Ma’ angenion ychwanegol gydag aelod o’i theulu, a galwodd hi gyda ni i gael tamed bach o frêc. Aeth hi at y piano, ac o’dd ‘i gwên hi werth gweld. Do’dd hi ddim wedi cael y fath gyfle i ymlacio a thrio’r piano o’r blaen.
Gobeithio bod yr engraifft yma’n amlygu un o’n prif amcanion ni yn Hwb Hebron, sef llenwi’r bwlch rhwng y cyfleoedd sy’n dod i ran rhai yn weddol naturiol, ond sy’n annoddach i eraill eu cyrraedd. 
Felly, o glybiau cinio i ddosbarthiadau dysgu’n y gymuned; ac o feithrin sgiliau cyfryngau pobl ifanc i ddigwyddiadau hybu iechyd a lles, bydd y cyfan ar waith yn Hwb Hebron
 Mae tlodi’n cuddio dan wyneb nifer o gymunedau gwledig a nifer o’n plith ni yn Hwb Hebron yn teimlo bod yr angen i gynnig yr un cyfleoedd i bawb fod yn ran o’u cymuned, yn fwy nag erioed.
Hwb