Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

2. Ar beth yr ydym ni'n gwario ein harian?

Rydym yn gwario dros £443 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar amrywiaeth eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith a ddarperir gan fusnesau o bob sector a maint, gydag ystod o gyfleoedd masnachol yn cynnwys Busnesau Bach a Chanolig, Sefydliadau'r Trydydd Sector, Grwpiau Lleiafrifol a Grwpiau Ffydd.

Rydym yn defnyddio dull Rheoli Categori wrth gaffael, sy'n golygu bod modd categoreiddio'r gwariant trwy grwpio ynghyd gynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y Cyngor, a'u mapio yn ôl marchnadoedd cyflenwi perthnasol. Trwy ganolbwyntio ar ein gwariant mewn categorïau penodol gallwn herio'r hyn rydym yn ei brynu a sut rydym yn ei brynu, i sicrhau grym prynu a gwerth hyd yr eithaf.

Yn ystod 2024/2025, gwariwyd cyfanswm £443 miliwn ar draws ein 11 is-gategori.

 

 

JavaScript chart by amCharts 3.21.12TGCh: 2.41%Gofal cymdeithasol ioedolion: 24.14%Adeiladu: 22.66%Corfforaethol: 16.52%Gwasanaethau Proffesiynolac Ymgynghori: 7.43%Trafnidiaeth: 6.62%Cynnal a Chadw Adeiladau:5.08%Rheoli Cyfleusterau: 4.57%Gwastraff: 4.49%Priffyrdd a Pharciau: 3.32%Gofal Cymdeithasol i Blant:2.74%JS chart by amCharts

 

  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion: 24.14%
  • Adeiladu: 22.66%
  • Corfforaethol: 16.52%
  • Gwasanaethau Proffesiynol ac Ymgynghori: 7.43%
  • Trafnidiaeth: 6.62%
  • Cynnal a Chadw Adeiladau: 5.08%
  • Rheoli Cyfleusterau: 4.57%
  • Gwastraff: 4.49%
  • Priffyrdd a Pharciau: 3.32%
  • Gofal Cymdeithasol i Blant: 2.74%
  • TGCH: 2.41%