Trethi Busnes

26/27 Newidiadau i Ardrethi Busnes yng Nghymru

Oherwydd y newidiadau sylweddol sy'n digwydd o ran ardrethi busnes ar gyfer 26/27, os hoffech herio'ch asesiad, cysylltwch â'r Swyddfa Brisio gan ddefnyddio'r ddolen isod:

Sut i herio prisio ardrethi eich busnes

 

Tâl yw Trethi Annomestig Cenedlaethol (TAC neu Drethi Masnachol) a godir ar eiddo masnachol ac a gesglir gan yr Awdurdod Lleol ers 1990. Mae'r symiau a gesglir gan bob Awdurdod yng Nghymru yn cael eu casglu ynghyd mewn cronfa a'u hailddosbarthu i gynghorau lleol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r arian o'r gronfa hon, yn ogystal â'r Grant Cynnal Refeniw a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chyfraniadau'r Dreth Gyngor yn talu am y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal.