Ynglŷn â'ch treth busnes
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/11/2025
Tâl yw Trethi Annomestig Cenedlaethol (TAC neu Drethi Masnachol) a godir ar eiddo masnachol ac a gesglir gan yr Awdurdod Lleol ers 1990. Mae'r symiau a gesglir gan bob Awdurdod yng Nghymru yn cael eu casglu ynghyd mewn cronfa a'u hailddosbarthu i gynghorau lleol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r arian o'r gronfa hon, yn ogystal â'r Grant Cynnal Refeniw a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chyfraniadau'r Dreth Gyngor yn talu am y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal.
Rhaid talu Treth Anomestig mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill, yn ddyledus ar y 15fed o bob mis neu cyn hynny. Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth Anomestig yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.
Ailbrisio Ardrethi Busnes 2026
Bob tair blynedd, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerthoedd ardrethol dros 2 miliwn o eiddo masnachol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r broses hon yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad. Enw arall arni yw ‘ailbrisiad’.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer ailbrisiad 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Dyw’ch gwerth ardrethol ddim yr un peth â’r rhent rydych chi’n ei thalu ar eich eiddo.
Fel eich cyngor lleol chi, rydyn ni’n defnyddio’r gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo’ch bil ardrethi busnes.
Yn ystod ailbrisio, efallai y bydd biliau ardrethi busnes yn cynyddu, gostwng neu’n aros yr un peth. Dyw cynnydd yn eich gwerth ardrethol ddim o reidrwydd yn golygu y bydd eich bil ardrethi busnes yn cynyddu gan swm tebyg.
Sut y cyfrifir y trethi?
Mae'r bil cyfraddau sylfaenol yn cael ei lunio drwy luosi'r gwerth ardrethol gyda’r lluosydd ardrethi neu’r gyfradd yn y bunt, y mae’r ddau ohonynt yn cael eu dangos ar y bil.
Lluosydd Trethiannol TAC
Bob blwyddyn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu treth sydd, o'i luosi â'r gwerth trethiannol, yn rhoi'r bil treth blynyddol ar gyfer eiddo. Yr un yw'r lluosydd i bob Awdurdod yng Nghymru, ac ni all y lluosydd hwn godi mwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegrif prisiau adwerthol, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio. Am 2019/20 y lluosydd yw £0.526.
Gwerth Trethiannol
Asesir pob adeilad masnachol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n pennu'r Gwerth Trethiannol; hyn yw gwerth ei rent blynyddol ar y farchnad agored.
Yn y gorffennol roedd eiddo annomestig yn cael ei ailbrisio bob pum mlynedd, ond cafodd ailbrisiad 2022 ei ddwyn ymlaen i 2021 gan Ganghellor y Trysorlys, a bydd y cylch prisio tair blynedd yn gymwys ar ôl yr ailbrisiad yn 2021.
Daeth yr ailbrisiad diwethaf i rym ar 1 Ebrill 2017. Mae pob eiddo yn cael ei brisio ar hyn o bryd fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2015, mae hyn er mwyn sicrhau bod bob eiddo yn cael ei brisio gan ddefnyddio'r un meini prawf. Ar gyfer eiddo cyfansawdd sy'n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig mae'r gwerth ardrethol yn ymwneud â'r rhan annomestig yn unig.
Mae gwerth pob eiddo y telir trethi ar eu cyfer i'ch Awdurdod wedi'u nodi yn eich rhestr trethu lleol, y gellir archwilio copi ohono ar wefan y Swyddfa Brisio.
Bydd y bil treth terfynol yn agored i nifer o newidiadau yn dibynnu ar amgylchiadau neu leoliad y busnes a'r amrywiad rhwng yr hen werth trethiannol a'r gwerth trethiannol newydd.


