Trethi Busnes - Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/11/2025
Ailbrisio yw’r term sy’n disgrifio adolygiad rheolaidd o werthoedd ardrethol ar gyfer pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae ailbrisio yn ystyried unrhyw newidiadau i’r farchnad rentu ac yn ailddosbarthu cyfanswm yr ardrethi busnes sy’n cael eu talu rhwng gwahanol eiddo i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Codir ardrethi busnes ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Eiddo fel:
- siopau
- swyddfeydd
- tafarndai
- warysau
- ffatrïoedd
- llety gwyliau hunanddarpar neu dai
- gwesteion
- cytiau traeth
- stablau.
Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes os ydych chi’n defnyddio adeilad,
rhan o adeilad neu dir at ddibenion annomestig.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio eiddo yn ôl ei werth ardrethol. Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer ailbrisiad 2026, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2024.
Er mwyn cyfrifo’r gwerth ardrethol, mae’r VOA yn dadansoddi’r farchnad eiddo rhent i wneud yn siŵr bod gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu’r farchnad eiddo’n gywir.
Yn ôl y gyfraith, dyw hi ddim yn bosibl herio eich prisiadau sydd yn y dyfodol tan 1 Ebrill 2026. Dyma’r dyddiad pan fydd rhestr ardrethu 2026 yn dod i rym.
Mae’n dal i fod yn bosibl i chi roi gwybod i’r VOA fod y manylion sydd gennym am eich eiddo yn ffeithiol anghywir drwy godi achos Gwirio yn erbyn eich prisiad ar gyfer 2023 ar-lein. Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Gallwch chi hefyd gymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg yn yr ardal, a gwirio sut cafodd y prisiad ei gyfrifo. Mae’r VOA wedi gwella sut rydyn ni’n dangos yr wybodaeth hon i’w gwneud hi’n haws i chi allu deall sut gwnaethon ni gyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo.
Dyddiad ailbrisiad 2026 yw 1 Ebrill 2024. Mae’r Llywodraeth yn gosod y dyddiad prisio, sydd fel arfer dwy flynedd cyn ailbrisiad, i ganiatáu amser i gasglu a dadansoddi data.
Caiff biliau ardrethi busnes eu cyfrifo gan ddefnyddio gwerth ardrethol, yn ogystal ag ystyried lluosyddion sydd wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw gynlluniau rhyddhadau.
Erbyn hyn, gallwch chi weld eich gwerth ardrethol sydd i ddod ar gyfer eich eiddo a chael amcangyfrif o beth efallai bydd eich bil ardrethi busnes ar gyfer yr eiddo o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Gallwch chi wneud hyn drwy wasanaeth Dod o hyd i brisiad ardrethi busnes VOA ar GOV.UK.
Os yw eiddo wedi newid, er enghraifft mae maint ei loriau yn wahanol, yna gallwch chi roi gwybod i’r VOA gan ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes. Mae yna wybodaeth am sut i greu cyfrif prisio ardrethi busnes ar GOV.UK.
Os yw cwsmer yn credu bod ei werth ardrethol yn y dyfodol yn rhy uchel, gall gysylltu â’r VOA gan ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes. Er nad oes modd i chi herio’ch prisiad ar gyfer 2026 tan 1 Ebrill, gallwch chi roi gwybod i ni fod manylion sydd gennym am eich eiddo yn anghywir trwy godi achos Gwirio yn erbyn eich prisiad ar gyfer 2023.
Gallai unrhyw newidiadau rydych chi’n eu gwneud i’ch prisiad ar gyfer 2023 arwain at gynyddu neu ostwng eich gwerth ardrethol. Efallai y bydd hyn hefyd yn effeithio ar eich prisiad sydd i ddod o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer hyd nes bod penderfyniad wedi’i wneud ar eich achos chi. Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi pan fyddwn ni wedi datrys eich achos, caiff hwn ei gyfrifo a’i anfon atoch chi gan eich cyngor lleol.
Mae gennych chi tan 31 Mawrth 2026 i ofyn am unrhyw newidiadau i’ch gwerth ardrethol ar gyfer 2023 gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes. Ar ôl 1 Ebrill 2026, dim ond newidiadau i’ch prisiad newydd y bydd modd i chi eu gwneud.
Wrth gyfrifo gwerth ardrethol, mae’r VOA yn ystyried faint y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol. Gall gwerth ardrethol eiddo amrywio am sawl rheswm fel lleoliad a maint.
Mae yna sawl math o ryddhad rhag ardrethi busnes i gwsmeriaid. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth bellach ar llyw.cymru.
Mae rhai rhyddhadau’n cael eu cymhwyso’n awtomatig ac mae angen i chi wneud cais am rai eraill. Ni ddylech byth orfod talu unrhyw un i wneud cais am ryddhad.
Os hoffech chi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan, yna gallwch chi benodi un gan ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes.
