Ymchwil, tueddiadau a datblygu

Yn 2023 daeth 3.31 miliwn o ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin, gan gynhyrchu £683.26 miliwn i'r economi leol. Treuliwyd dros 7.11 miliwn o ddyddiau twristiaeth yn y Sir gyda 1.18 miliwn o bobl yn aros yn un o'r 1,250+ o sefydliadau. Mae 6,649 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector. Mae'r newidiadau ar gyfer 2012-2023 (%) fel a ganlyn:


• Effaith Economaidd: £319.57 miliwn i £683.26 miliwn yn 2023
• Dyddiau Ymwelwyr: 5.38m i 7.12m


Cafodd y cynnydd o ran yr incwm sy'n deillio o ymwelwyr ei ysgogi gan berfformiad cryf yn y sector ymwelwyr sy'n aros, yn enwedig llety â gwasanaeth. Ers 2012, mae nifer blynyddol yr ymwelwyr sy'n aros yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 33.5%, gan gyfrannu £589 miliwn i'r economi yn 2023.
Llety heb wasanaeth yw'r darparwr llety mwyaf o hyd sy'n codi 156% o ran effaith economaidd ers 2012 gyda gwerth o £451 miliwn yn 2023. Mae ein perfformiad twristiaeth yn cael ei fesur gan ddefnyddio STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor).

Pwy sy'n ymweld â Sir Gâr?

  • Pobl gefnog 55+ oed y mae eu plant wedi gadael cartref
  • Nifer y bobl ym mhob grŵp o ymwelwyr ar gyfartaledd yw 4.4
  • Teuluoedd incwm canol sydd â phlant hŷn
  • Dywedodd 97% y byddent yn debygol o ddychwelyd yn y dyfodol
  • Dywedodd 98% y byddent yn ei argymell yn lle braf i ymweld ag ef
  • Daeth canran fawr o ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal â Chanolbarth Lloegr, De-ddwyrain, UDA ac Iwerddon.

Os hoffech gael copi o adroddiad llawn Effaith Economaidd STEAM, cysylltwch â ni