Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr

Mae'r fwrsariaeth bellach ar gau ar gyfer ddatganiadau mynegi diddordeb newydd. Os hoffech ychwanegu eich enw at restr aros, fel eich bod yn cael gwybod am unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol, anfonwch eich ymholiadau drwy e-bost at: ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.

 

Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn ôl!

Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi entrepreneuriaid lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod y fwrsariaeth yw creu'r cyfle i entrepreneuriaid lleol brofi eu syniadau busnes cyn creu busnes newydd yn ffurfiol. Drwy gyfnod o fasnachu prawf, gall entrepreneuriaid fireinio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau a deall galw'r farchnad heb y risg ariannol.

Bydd ymgeiswyr yn derbyn cymorth cofleidiol i ddatblygu cynllun busnes cynaliadwy, yn ogystal â mentora busnes 1:1. Fel ymrwymiad i gefnogi ymgeiswyr yn llawn, bydd y cymorth hwn yn orfodol.

 

Ynglŷn â'r Fwrsariaeth

Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn daliad wedi'i ariannu'n llawn o hyd at £1,000 sydd ar gael i unrhyw unigolion dros 18 oed yn Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn masnachu prawf ar gyfer syniad busnes, a heb fawr ddim profiad busnes blaenorol, neu ddim o gwbl.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad o’r gwariant arfaethedig, gan gynnwys cost ac enw’r cyflenwr/cyflenwyr gyda dyfynbrisiau ategol. Anogir y defnydd o gyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin lle bynnag y bo modd. 

Bydd yr holl wariant rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd. Nid ystyrir eitemau a brynir ag arian parod.

Rhaid i ymgeiswyr fynychu Gweithdy Dechrau Busnes a drefnir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn eu cynorthwyo i lunio cynllun busnes cynaliadwy a rhagolwg llif arian, a chytuno i gael sesiynau mentora 1:1. 

 

Bydd Ceisiadau Llwyddiannus yn Ddarostyngedig i'r Amodau Canlynol:

  • Bydd 100% o'r dyfarniad yn cael ei ryddhau ymlaen llaw
  • Rhaid darparu tystiolaeth o'r gwariant a amlinellir yn y cais o fewn 2 fis i ddyddiad dyfarnu'r Fwrsariaeth
  • Rhaid darparu tystiolaeth o weithgareddau masnachu prawf o fewn 6 mis i ddyfarnu'r Fwrsariaeth
  • Gellir gwneud cais am estyniad i'r cyfnodau uchod gydag esboniad rhesymol a phenderfynir ar achosion o'r fath yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd

 

Gellir lawrlwytho telerau llawn y Fwrsariaeth isod.

I gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd i: ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.

Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich Mynegiant o Ddiddordeb ac yn cysylltu â chi'n fuan.

Sylwer: Ni fydd unigolion y dyfarnwyd bwrsariaeth iddynt yn flaenorol o dan Fwrsariaeth Lansio Busnes wreiddiol Sir Gaerfyrddin (2024) yn gymwys i ailymgeisio.

 Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr Ffurflen

Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr T&C's