Offer Chwarae – Maes Chwarae Maesquarre

Ymgeiswyr Prosiect: Cyngor Cymuned Y Betws

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Betws

Mae gan Gyngor Cymuned y Betws ddau faes chwarae, ac nid oes gan yr un ohonynt offer chwarae sy'n hygyrch yn benodol i bobl anabl. Mae'r prosiect hwn wedi ariannu'r gwaith o osod offer chwarae cynhwysol ar draws y ddau faes chwarae, gan gynnwys chwyrligwgan, ffrâm ddringo gyda sleidiau a siglenni dwbl, gan ganiatáu i bob plentyn chwarae gyda'i gilydd yn yr un maes chwarae. Mae'r offer hwn wedi darparu cyfleusterau chwarae sydd mawr eu hangen i deuluoedd.