Newid yn yr Hinsawdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Cynhesu byd-eang yw'r cynnydd hirdymor yn nhymheredd y Ddaear oherwydd gweithgareddau dynol. Mae hyn yn cael ei achosi'n bennaf drwy losgi tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy naturiol, sy'n rhyddhau carbon deuocsid sy'n dal gwres yr haul ac yn codi tymereddau.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain a rhoi arweiniad er mwyn annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i leihau eu hôl troed carbon hwythau. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ein hôl troed carbon mesuradwy. Nid yw hyn yn atal camau ehangach eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cael eu gwneud ar draws adrannau'r Cyngor.

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl ledled y byd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfnodau o wres mawr eithafol a stormydd amlach, aflonyddwch i systemau bwyd, a chynnydd mewn afiechydon. Mae hefyd yn bygwth cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, gan achosi problemau fel llifogydd [...]. Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, amgylcheddau naturiol a hanesyddol, cartrefi a'r busnesau sy'n gyrru ein heconomi i gyd mewn perygl, a bydd hynny ond yn gwaethygu.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau