Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)
Yn yr adran hon
1. Cefndir
Ar 1 Ebrill 2024 daeth y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ("y Ddyletswydd") ar gyrff cyhoeddus i rym yng Nghymru. Mae'r Ddyletswydd wedi'i nodi yn adrannau 15, 16 a 18 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'n ategu dyletswyddau llesiant presennol y mae cyrff cyhoeddus penodol eisoes yn destun iddynt o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Wrth gyflawni datblygiad cynaliadwy, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a restrir o dan adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i'r graddau y mae'n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawdu â'u hundebau llafur cydnabyddedig, neu, os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, cynrychiolwyr gweithwyr eraill, wrth osod eu hamcanion llesiant a gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny a bennir o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae adran 16(2) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn nodi nifer o ofynion penodol sy'n ymwneud â'r Ddyletswydd, y mae'n rhaid i gorff cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth 'geisio consensws neu gyfaddawdu’. Bwriad y gofynion yw sicrhau bod undebau llafur neu gynrychiolwyr eraill o staff cyrff cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn briodol pan fydd corff cyhoeddus yn gosod ei amcanion llesiant, neu wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch y camau rhesymol y mae'r corff yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny.
Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn nodi:
Er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawdu, rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill o'i staff yn y broses o osod amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol):
(a) ymgynghori â nhw ar gam ffurfiannol o'r broses, a
(b) eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy:
- darparu digon o wybodaeth i'w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn a gynigir, a
- rhoi digon o amser i'w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn a gynigir ac ymateb.
Effaith fwriadedig y ddeddfwriaeth yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru drwy gryfhau rôl partneriaeth gymdeithasol o fewn y broses o wneud penderfyniadau strategol.
Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus o fewn cwmpas gynhyrchu adroddiad blynyddol i dystiolaethu sut maent wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd, y mae'n rhaid ei gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i graffu arno.
Mae Adran 18 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn nodi:
(1) Rhaid i gorff cyhoeddus baratoi, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad o'r hyn y mae wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd.
(2) Rhaid i'r adroddiad gael ei gytuno ag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'i staff neu gynnwys datganiad yn esbonio pam na chytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r corff cyhoeddus gyhoeddi'r adroddiad, a'i gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
