Cofrestr Tir Halogedig

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnal cofrestr gyhoeddus, sydd ar gael i'w harchwilio, o'r camau rheoleiddio a gymerwyd mewn perthynas ag adfer tir halogedig. Mae hyn yn ofyniad a nodir yn Adran 78R o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Mae'r gofrestr yn darparu cofnod parhaol o unrhyw dir sydd wedi'i bennu'n ffurfiol fel Tir Halogedig, a'r camau a gymerwyd gan yr awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r tir hwnnw.

A oes unrhyw Dir Halogedig yn Sir Gaerfyrddin?

Er bod Sir Gaerfyrddin yn cynnwys tir a allai fod wedi'i halogi,  nid oes unrhyw safleoedd wedi'u pennu'n ffurfiol ar hyn o bryd fel Tir Halogedig o dan Adran IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Dylid nodi, er nad oes cofnodion ar y gofrestr gyhoeddus yn nodi tir halogedig, nid yw hyn yn golygu nad oes tir halogedig yn y Sir.