Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae'n ofynnol i'r awdurdod adolygu Asesiadau Effaith Gronnol, sy'n rhan o'i Bolisi Trwyddedu o leiaf bob 3 blynedd ac fel rhan o'r adolygiad rhaid i'r awdurdod gynnal ymarfer ymgynghori. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf o'r Polisi Trwyddedu yn 2023.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at adolygu polisi trwyddedu Sir Gaerfyrddin. Edrychwn ymlaen at gael eich sylwadau a’ch syniadau er mwyn sicrhau y gallwn gynnal system drwyddedu effeithiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
