Pam yr ydym wedi ymgynghori

Rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Chwefror 2024, dewiswyd 5000 o denantiaid ar hap a gofynnwyd iddynt gymryd rhan mewn arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR drwy'r post neu ar-lein. Anfonwyd neges atgoffa at bob un nad oedd wedi ymateb.
Nod yr arolwg hwn yw darparu data am fodlonrwydd tenantiaid, a fydd yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi'r darlun diweddaraf o ganfyddiadau tenantiaid o'u cartrefi a'r gwasanaethau presennol
  • Cymharu'r canlyniadau ag arolygon blaenorol lle bo hynny'n bosibl
  • Cymharu'r canlyniadau â landlordiaid eraill lle bo hynny'n briodol
  • Llywio penderfyniadau ynghylch datblygu gwasanaethau yn y dyfodol
  • Cyhoeddi canlyniadau i breswylwyr, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru

 

 

 

Sut aethom ati i ymgynghori

Cafwyd 1,250 o ymatebion (cyfradd ymateb o 25%). O'r rhain, cafwyd 370 o ymatebion ar-lein ac 880 drwy'r post.

Cafodd yr ymatebion eu gwirio yn erbyn manylion gwreiddiol deiliadaeth, ardal ac oedran i sicrhau bod yr ymatebion yn gynrychioliadol o'r boblogaeth tenantiaid yn ei chyfanrwydd. Nodwyd bod rhai grwpiau oedran naill ai'n cael eu gorgynrychioli neu eu tangynrychioli yn yr ymateb sampl, felly mae'r canlyniadau wedi cael eu pwysoli yn ôl oedran i'w gwneud yn gynrychioladol.

Roedd yr arolwg yn gyfrinachol ac yn ddienw oni bai bod tenantiaid wedi rhoi eu caniatâd i'w henw gael ei gyhoeddi.

Mae'r rhan fwyaf o'r ffigurau drwy'r adroddiad yn dangos y canlyniadau fel canrannau. Mae'r canrannau'n cael eu talgrynnu i fyny neu i lawr o ddau le degol i'r rhif cyfan agosaf, ac am y rheswm hwn, efallai na fyddant yn gwneud cyfanswm o 100% ym mhob achos.

Canlyniad yr ymgynghoriad

Bodlonrwydd cyffredinol - 67%

 

Mae canlyniadau'r arolwg blaenorol yn 2021 wedi gostwng yn gyffredinol, ond mae'n bwysig ystyried y cyd-destun cenedlaethol a ffactorau allanol. Er enghraifft:

  • Yr argyfwng costau byw, tlodi cynyddol a llai o gyllid gan yr Awdurdod Lleol
  • Newidiadau gwleidyddol a llywodraeth
  • Ansicrwydd ynghylch y dyfodol
  • Brexit a'r economi
  • Mae bodlonrwydd yn seiliedig ar ganfyddiad yn hytrach na gwerthoedd penodol, felly gall y ffactorau hyn a pha mor gadarnhaol y mae pobl yn teimlo am eu bywydau effeithio arno.
  • Hefyd newidiodd ffactorau fel y pandemig y ffordd y mae landlordiaid cymdeithasol yn gweithredu, gan eu gwneud yn llai hygyrch ac yn llai ymatebol efallai.

“Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau tai y Cyngor fel eich landlord?”

 

Dyma'r metrig allweddol mewn unrhyw arolwg canfyddiad tenantiaid. Mae dwy ran o dair o'r tenantiaid yn fodlon (67%), ac mae mwy yn fodlon iawn (35%) nag yn eithaf bodlon (32%).
Fodd bynnag, mae 22% o'r tenantiaid yn anfodlon, ac mae'r 10% sy'n weddill yn dweud nad ydynt yn fodlon nac yn anfodlon.
Cynhaliwyd arolygon bodlonrwydd STAR tebyg yn 2019 a 2021. Yn gyffredinol, mae canlyniadau 2024 yn is na'r rhai yn 2021.
Ymatebodd nifer gymharol fach o denantiaid mewn tai gwarchod i'r arolwg, ac mae bodlonrwydd yn tueddu i fod yn uwch ymhlith y grŵp hwn nag ymhlith tenantiaid eraill, sy'n digwydd yn aml.
Yn gyffredinol, mae 81% o denantiaid tai gwarchod yn fodlon o'u cymharu â 66% o denantiaid anghenion cyffredinol. Bydd y ffigur cyfunol bob amser yn agos at y canlyniad anghenion cyffredinol sy'n ffurfio'r mwyafrif helaeth o ymatebion.

Y cartref a gwaith atgyweirio

Mae tua dwy ran o dair o'r tenantiaid yn fodlon ar ansawdd eu cartref, er bod chwarter yn anfodlon a 10% arall yn dweud nad ydynt yn fodlon nac yn anfodlon.
Mae bodlonrwydd ar y cartref wedi gostwng 10 pwynt canran ers yr arolwg blaenorol. Fodd bynnag, mae mwy yn teimlo bod eu cartref yn ddiogel (73%), er bod bodlonrwydd hefyd wedi gostwng mewn perthynas â hyn ers 2021, i lawr o 81%.
Mae 15% o'r tenantiaid yn anfodlon ar ddiogelwch eu cartref. Mae chwech o bob deg tenant yn fodlon ar y gwasanaeth atgyweirio cyffredinol, ond mae 29% yn anfodlon. Mae bodlonrwydd wedi gostwng 6 phwynt canran ers 2021.
Unwaith eto, mae tenantiaid tai gwarchod yn fwy bodlon ar eu cartref a'r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw cyffredinol; sef gwahaniaeth o 25 pwynt canran o ran ansawdd eu cartref, 18 pwynt canran o ran ei ddiogelwch a gwahaniaeth o 9 pwynt canran o ran y gwasanaeth atgyweirio.

Y gwaith atgyweirio diwethaf a wnaethpwyd

Dywedodd saith o bob deg tenant eu bod wedi cael gwaith atgyweirio wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tri chwarter y tenantiaid ei bod yn hawdd cael mynediad i'r gwasanaeth atgyweirio, ac roedd niferoedd tebyg yn fodlon ar ei ansawdd.
Fodd bynnag, mae 65% yn fodlon bod y gwaith wedi ei wneud yn iawn y tro cyntaf ac mae llai eto yn fodlon ar yr amser a gymerwyd i gwblhau'r gwaith atgyweirio (61%) gyda 30% yn anfodlon.
Ar gyfer y gwasanaeth cyffredinol y tro hwn, mae 70% yn fodlon, ond mae hyn wedi gostwng o 75% yn 2021. Unwaith eto, mae tenantiaid tai gwarchod yn fwy bodlon na'r rhai anghenion cyffredinol, ond mae'r gwahaniaethau yn llai nag y maent ar gyfer llawer o'r mesurau eraill yn yr arolwg - gwahaniaeth o 2 bwynt canran yn unig ar gyfer pa mor hawdd yw hi i gael mynediad i'r gwasanaeth.
Mae'r gwahaniaeth mwyaf ar gyfer y gwasanaeth cyffredinol a gafwyd lle mae gwahaniaeth o 14 pwynt canran. Mae bodlonrwydd tebyg ar draws y tair etholaeth, sy'n awgrymu bod y Cyngor yn darparu gwasanaeth cyson.

Gwelliannau i'r gwasanaeth atgyweirio

Gofynnwyd i'r tenantiaid sut y gallai'r Cyngor wella'r gwasanaeth atgyweirio a rhoddodd 681 o denantiaid awgrymiadau. Fodd bynnag, mae nifer o sylwadau yn gadarnhaol am y gwasanaeth presennol, a rhoddodd 12% sylwadau cadarnhaol am y gweithlu a'r gwasanaeth ei hun.
Y maes mwyaf cyffredin i'w wella yw'r amser a gymerir i gwblhau gwaith atgyweirio, ac roedd 41% o'r holl sylwadau a wnaed yn ymwneud â'r maes hwn. Y maes nesaf yw delio â gwaith atgyweirio sydd heb gael ei wneud neu yr ymddengys ei fod wedi'i anghofio.
Mae'r rhain yn faterion cyffredin sy'n effeithio ar landlordiaid cymdeithasol eraill, y mae rhai ohonynt yn dal i fyny o hyd ar ôl y pandemig, yn wynebu costau cynyddol ac, mewn rhai meysydd, prinder deunyddiau a llafur. Hefyd, mae pwysigrwydd delio â phroblemau lleithder a llwydni yn aml wedi cael blaenoriaeth gan ychwanegu at yr oedi.
Mae awgrymiadau eraill yn cynnwys gwella cyfathrebu ac adrodd, apwyntiadau ac ansawdd y gwaith.

Y Gymdogaeth

Bodlonrwydd ar y gymdogaeth fel lle i fyw yw'r metrig sy'n perfformio orau i'r Cyngor, sef 80%, a dim ond 11% sy'n anfodlon.
Ond mae hyn ychydig yn is na'r arolwg blaenorol (82%). Unwaith eto, mae tenantiaid tai gwarchod yn fwy bodlon ar eu cymdogaeth na'r tenantiaid anghenion cyffredinol, sef 89% o gymharu ag 80%.
Mae bodlonrwydd ar waith cynnal a chadw tiroedd, fel torri porfa, yn is, sef 62%, ac i lawr o 69% yn 2021. Mae 18% yn anfodlon ac mae 20% arall yn dweud nad ydynt yn fodlon nac yn anfodlon.
Unwaith eto, mae tenantiaid tai gwarchod yn fwy bodlon, sef 10% yn fwy na'r tenantiaid anghenion cyffredinol. Mae ychydig dros hanner y tenantiaid (55%) yn fodlon ar y ffordd y mae'r Cyngor yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sef dim ond 2 bwynt canran yn is na'r arolwg blaenorol; ac mae 16% yn anfodlon. Fodd bynnag, dywedodd 29% nad ydynt yn fodlon nac yn anfodlon, efallai oherwydd nad ydynt wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol, felly nid ydynt yn gallu cynnig barn. Mae bodlonrwydd ar ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol unwaith eto yn uwch ymhlith tenantiaid tai gwarchod.

Gwerth am arian

Mae 69% yn fodlon ar y rhent a 62% ar eu taliadau am wasanaethau, ac mae nifer tebyg o denantiaid yn anfodlon. Mae llai o fodlonrwydd ar y ddau beth hyn ers yr arolwg blaenorol, i lawr 6 phwynt canran ar gyfer rhent ac 11 pwynt canran ar gyfer taliadau am wasanaethau.
Unwaith eto, mae tenantiaid tai gwarchod yn fwy bodlon. Efallai nad yw hyn yn syndod o ystyried yr argyfwng costau byw presennol, wrth i lawer o aelwydydd gael trafferth â'u biliau cartref. Ar adegau o bwysau ariannol cynyddol, mae'n fwy tebygol y bydd tenantiaid yn edrych yn fanylach ar yr hyn y maent yn ei gael am y taliadau y maent yn eu gwneud. Gall hyn hyd yn oed newid yr hyn y maent yn ei ddisgwyl gan ei landlord a'r hyn y dylent yn rhesymol ei ddisgwyl.
O ran a yw taliadau am wasanaethau yn darparu gwerth am arian, er bod opsiwn 'amherthnasol' wedi'i gynnwys, ymatebodd 968 o denantiaid i'r cwestiwn hwn, ond dim ond 126 o'r rhain sy'n talu taliadau am wasanaethau. Ar gyfer y grŵp hwn, mae 57% o'r ymatebwyr yn fodlon bod taliadau am wasanaethau yn darparu gwerth am arian ac mae 28% yn anfodlon.

Ymgysylltu â phreswylwyr

Mae saith o bob deg tenant yn ymddiried yn y Cyngor fel landlord (70%), sydd wedi gostwng 10 pwynt canran ers yr arolwg diwethaf yn 2021. Mae llai (49%) yn fodlon bod y Cyngor yn gwrando ar eu sylwadau ac yn gweithredu arnynt, i lawr o 63% yn 2021. Mae mwy yn anfodlon ar hyn hefyd, sef 28%.
Dim ond 43% sy'n fodlon ar y cyfleoedd a roddir iddynt i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mae ychydig yn llai (40%) yn fodlon bod ganddynt lais ynglŷn â sut mae gwasanaethau'n cael eu rheoli.
Er bod anfodlonrwydd cymharol isel ar gyfer y ddau, atebodd nifer llawer uwch o denantiaid yn niwtral (ddim yn fodlon nac yn anfodlon), tua dwy ran o bump ar gyfer pob un, gan awgrymu efallai nad ydynt yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ganddynt, a bod angen hyrwyddo'r rhain yn fwy o bosib.
Gofynnwyd hefyd i'r tenantiaid sut yr hoffent fod yn rhan o gael dweud eu dweud am wasanaethau'r Cyngor. Rhoddwyd amrywiol opsiynau a'r rhai mwyaf poblogaidd oedd arolygon byr ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yna arolygon manwl (ar-lein neu dros y ffôn). Fodd bynnag, nid oedd gan hanner yr ymatebwyr ddiddordeb yn unrhyw un o'r opsiynau hyn. Mae enwau a chyfeiriadau'r rhai sydd â diddordeb wedi cael eu trosglwyddo i'r Cyngor.

Sylwadau – gwella gwrando a gweithredu

Gofynnwyd i'r tenantiaid nad oeddent yn fodlon ar y ffordd y mae'r Cyngor yn gwrando ar eu sylwadau ac yn gweithredu arnynt esbonio pam a sut y gallai'r Cyngor wella; gwnaeth 235 o denantiaid sylwadau.
Mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau yn gysylltiedig â'r gwasanaeth atgyweirio, yn benodol, delio â gwaith atgyweirio sydd heb gael ei wneud a'r amser a gymerir i gwblhau gwaith atgyweirio. Mae'r tenantiaid hefyd yn sôn am faterion cyfathrebu ynghylch y gwasanaeth atgyweirio a pha mor hawdd yw hi i roi gwybod am waith atgyweirio.
Fodd bynnag, mae rhai yn sôn am gyfathrebu cyffredinol, eisiau i staff wrando arnynt yn fwy gofalus a chymryd diddordeb yn eu pryderon a hefyd dangos ychydig mwy o ofal, empathi a chefnogaeth pan fyddant yn cysylltu.

Argymell a gwelliannau

"Pa mor debygol fyddech chi o argymell Gwasanaethau Tai y Cyngor i deulu a ffrindiau?"
Mae ychydig llai na hanner y tenantiaid yn hapus i hyrwyddo'r Cyngor i bobl eraill (45%), a rhoddodd 34% sgôr o 10 allan o 10.
Gellid perswadio ychydig llai na chwarter y tenantiaid y naill ffordd neu'r llall (23%). Fodd bynnag, nid yw 32% yn debygol o wneud hynny, ac yn debygol o fod â barn negyddol am Gyngor Sir Caerfyrddin.
Rhoddodd rhyw 14% o denantiaid sgôr o 8 allan o 10.

Gwelliannau - awgrymiadau

Gofynnwyd i bob tenant nodi pa un peth y gallai gwasanaethau tai'r Cyngor ei wella. Rhoddodd 761 o denantiaid sylwadau. O'r rhain, gwnaeth 9% sylwadau cadarnhaol am y gwasanaethau presennol a ddarperir, gan awgrymu yn y rhan fwyaf o achosion nad oedd unrhyw welliannau i'w gwneud.
Roedd 35% o'r holl sylwadau a wnaed yn ymwneud â'r gwasanaeth atgyweirio. Yn benodol, mae tenantiaid am weld gwelliannau mewn perthynas â chwblhau gwaith atgyweirio yn gyflymach, delio â gwaith atgyweirio sydd heb ei wneud a chyfathrebu am y gwaith atgyweirio. Yn dilyn hyn, mae gwelliannau i'r gwasanaeth cwsmeriaid, lle mae tenantiaid eisiau i staff ddangos ychydig mwy o ofal, empathi a chefnogaeth iddynt wrth gysylltu, ac yna cyflwr eiddo a materion cyfathrebu.
Yn 2023/24, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin Acuity i gynnal arolygon bodlonrwydd annibynnol (STAR) o'u tenantiaid i gasglu data am eu barn am eu landlord a'r gwasanaethau a ddarperir a'u hagweddau tuag atynt. Cynhelir yr arolwg hwn bob blwyddyn tan o leiaf 2029/30. Cynlluniwyd yr arolwg yn dilyn canllawiau Housemark a Llywodraeth Cymru ynghylch cynnal arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid a Phreswylwyr Safonedig (STAR).