Pam yr ydym yn ymgynghori

Bydd ymgynghoriad Troseddu ac Anhrefn 2025 yn helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i nodi blaenoriaethau yn y dyfodol mewn perthynas â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nhyisha, Llanelli, yn ogystal ag asesu effaith y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. 
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad blaenorol ar drosedd ac anhrefn yn 2021, lle nodwyd y blaenoriaethau canlynol: 

  • Troseddu/ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwastraff
  • Cyffuriau

Nodwyd hefyd yr angen am fesurau diogelwch ychwanegol fel teledu cylch cyfyng, ffensys a mwy o welededd gan yr Heddlu a Chyngor Sir Caerfyrddin. 
Trwy weithio mewn partneriaeth a Grŵp Llywio aml-sefydliad a sefydlwyd yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol, mae nifer o gamau cadarnhaol wedi'u cynnal ledled Tyisha i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Prosiect teledu cylch cyfyng mawr ar y gweill, gyda 33 o gamerâu ychwanegol wedi'u gosod yn y cam cyntaf 
  • Ffensys newydd, gerddi wedi'u huwchraddio, system fynediad fob newydd a diweddariadau i ardaloedd cymunedol gan gynnwys gosod lloriau newydd, blychau llythyrau ac addurniadau 
  • Dau Orchymyn Cau (mewn dau eiddo ar wahân) i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol (gyda chymorth y teledu cylch cyfyng newydd sydd wedi'i osod) 
  • Sawl hysbysiad cosb benodedig ac erlyniadau llys am dipio anghyfreithlon 
  • Casglu sbwriel gydag ysgolion a grwpiau cymunedol 
  • Mwy o weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys drwy batrolau ar y cyd a 'Cwrdd â'r Stryd' – cyfle i drigolion siarad â Chyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed Powys ar y cyd 
  • Patrolau y tu allan i'r oriau arferol gyda'r nos (wedi'u hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu 
  • Cynorthwyo preswylwyr i sefydlu tri Chynllun Gwarchod Cymdogaeth 
  • Darparu clychau drws (a ariannwyd gan y Grŵp Gweithredu Cymunedau Mwy Diogel) 
  • Mynychu hyfforddiant diogelu, gyda thîm Trawsnewid Tyisha - meddu ar fwy o wybodaeth erbyn hyn ynghylch cyflwyno atgyfeiriadau ar ran preswylwyr sy'n agored i niwed neu mewn perygl
  • Mwy o gyfathrebu â landlordiaid lleol i wella tai, gwastraff ac ymddygiad gwrthgymdeithasol y sector preifat sy'n gysylltiedig ag eiddo preifat 

Sut i gymryd rhan

Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn.

Camau nesaf

Bydd yr adborth o'r ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu'r prif bryderon sydd gan breswylwyr Tyisha a helpu i ganolbwyntio ar ddull amlasiantaethol ar sut i fynd i'r afael â nhw.