Pam yr ydym yn ymgynghori
Rydym yn gofyn i Sipsiwn, Teithwyr a siewmyn teithiol rannu eu barn am lety teithwyr yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys lleiniau ac unrhyw un sy'n byw mewn tŷ brics a morter, ond sydd am ddychwelyd i fyw ar lain.
Rydyn ni'n gofyn y cwestiynau hyn bob pum mlynedd ac mae'r canlyniadau'n dweud wrth y Cyngor oes angen helpu i adeiladu mwy o leiniau a lle mae angen lleiniau newydd. Gallai'r lleiniau newydd hyn fod naill ai ar safleoedd preifat neu ar safleoedd sy'n eiddo i'r Cyngor ac sydd wedi cael eu hadeiladu ganddo.
Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Dydyn ni ddim yn rhannu eich gwybodaeth gydag adrannau eraill y Cyngor, Llywodraeth Cymru, neu unrhyw un arall.
Sut i gymryd rhan
Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn.