Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi Cyngor Sir Caerfyrddin i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 a Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdodau Lleol) (Cymru), fel y'u diwygiwyd yn 2026, ynghyd â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Ofal Plant i Awdurdodau Lleol (2026).
Diben yr ymgynghoriad yw casglu tystiolaeth gan rieni a gofalwyr, darparwyr gofal plant, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r anghenion gofal plant presennol ac yn y dyfodol ledled Sir Gaerfyrddin.
Er bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn defnyddio ystod eang o ddata demograffig, economaidd a data am y farchnad gofal plant, mae ymgynghori yn rhan hanfodol o'r broses. Mae'n ategu'r dadansoddiad meintiol drwy ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i brofiadau byw teuluoedd, darparwyr a chyflogwyr, gan ychwanegu cyd-destun at y data a helpu i egluro'r ffactorau sy'n sail i dueddiadau, heriau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r dystiolaeth gyfoethocach hon yn galluogi'r Cyngor i ddeall nid yn unig beth sy'n digwydd o fewn y farchnad gofal plant, ond hefyd pam ei fod yn digwydd a pha atebion ymarferol y mae rhanddeiliaid yn credu a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Drwy'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn gallu nodi anghenion nas diwallwyd a'r rhwystrau sy'n atal mynediad at ofal plant, deall yr heriau sy'n gysylltiedig â recriwtio a chadw'r gweithlu, archwilio cynaliadwyedd y sector gofal plant, ystyried argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gofal plant ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a chasglu barn am y cymorth, y cyllid a'r newidiadau polisi sydd eu hangen i ddiwallu'r galw yn y dyfodol.
Bydd y canfyddiadau yn llywio Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant Sir Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod 2027–2032 a'i Gynllun Gweithredu cysylltiedig, gan sicrhau bod cynllunio, buddsoddi a chymorth ar gyfer gwasanaethau gofal plant yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth, yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn cael eu llywio gan safbwyntiau a phrofiadau'r rhai sy'n adnabod y sector gofal plant a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu orau.
Sut i gymryd rhan
Bydd nifer o gyfleoedd i unigolion a sefydliadau gyfrannu at yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant drwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad.
Bydd cyfranogiad yn bennaf drwy wahoddiad, gyda rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu Place Group i gymryd rhan mewn:
- cyfweliadau unigol dros y ffôn neu ar-lein;
- grwpiau ffocws rhithwir neu wyneb yn wyneb; a
- sesiynau ymgysylltu wedi'u targedu gyda grwpiau rhanddeiliaid penodol.
Yn ogystal, bydd aelodau o dîm y prosiect yn mynychu rhai digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol presennol sy'n cael eu cynnal ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid.
Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i gyflogwyr a phobl ifanc, gan alluogi cyfranogwyr i gyfrannu'n hawdd ar adeg sy'n gyfleus iddynt.
Mae'r ymgynghoriad wedi'i gynllunio i fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl. Bydd cyfranogwyr yn gallu cyfrannu yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a bydd cymorth ar gael lle bo angen er mwyn galluogi cyfranogiad ystyrlon.
Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn: https://ymateb.gov.wales/s/PN47J5/
Camau nesaf
Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â data demograffig a data am y farchnad gofal plant er mwyn darparu asesiad cynhwysfawr o ddigonolrwydd gofal plant ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd y canfyddiadau'n cadarnhau'r dystiolaeth feintiol ac yn ychwanegu cyd-destun ati, yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gwelliant, ac yn llywio'n uniongyrchol ddatblygiad Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2027–2032 a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.
Yn dilyn cymeradwyo'r dogfennau terfynol, cânt eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u defnyddio i lywio cynllunio a datblygu gwasanaethau gofal plant ledled y sir yn y dyfodol.
