Pam yr ydym wedi ymgynghori

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n ofynnol i’r Cyngor asesu a yw Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyfanrwydd unrhyw Safle Ewropeaidd. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC), ac fe’i cynhelir drwy gydol y gwaith paratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. 

Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn nawr yn cynnwys yr Adendwm Safleoedd Ychwanegol ARC (Mawrth 2025) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar ein gwefan. Mae’n cynnwys: 

  • Adroddiad Cwmpasu ARC (Rhagfyr 2018)
  • Adroddiad ARC (Ionawr 2020) 
  • Adendwm ARC (Chwefror 2023)
  • Ail Adendwm ARC (Chwefror 2024)
  • Adendwm Safleoedd Ychwanegol ARC (Mawrth 2025)

 

Dogfennau Ategol

ASESIAD RHEOLIADAU CYNEFINOEDDADENDWM SAFLEOEDD YCHWANEGOL