Pam yr ydym wedi ymgynghori
Yn 2024, comisiynwyd AtkinsRéalis gan Gyngor Sir Caerfyrddin i greu dyluniadau a chynnal asesiadau rhagarweiniol i archwilio opsiynau ar gyfer cyfnewidfa deithio yng nghanol Llanelli, gyda’r nod o wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau cydgysylltiedig yn y dref a thu hwnt.
Er mwyn datblygu’r dyluniad hwn ymhellach, penderfynwyd ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chasglu sylwadau / barn y cyhoedd am y cynllun. Felly, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin y cwmni AtkinsRéalis i gydlynu a chynnal ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y dyluniad rhagarweiniol arfaethedig. Wedi hynny, trefnodd AtkinsRéalis ddau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd.
Ar ôl datblygu’r dyluniad rhagarweiniol, argymhellwyd y dylid ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y cyhoedd. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgysylltu hwn er mwyn sicrhau bod gwybodaeth, pryderon a dyheadau rhanddeiliaid lleol yn cael eu casglu, yn ogystal â chael barn y cyhoedd am yr opsiynau a gyflwynwyd er mwyn llywio camau datblygu’r dyluniad yn y dyfodol yn well.
Sut aethom ati i ymgynghori
Ym mis Mawrth 2025, anfonwyd llythyrau at drigolion sy’n byw yn agos i faes y cynllun, gan roi gwybod iddynt am y digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a oedd i’w cynnal yn Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli a Chanolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli. Roedd y llythyr hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch yr ymgysylltu, gan gynnwys dolen i wefan Cyfnewidfa Deithio Llanelli, a’r holiadur ymgysylltu. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth drwy lythyrau, hysbysebwyd manylion y digwyddiadau ymgysylltu ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cynhaliwyd y digwyddiad ymgysylltu cyntaf yn Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli ar 17 Mawrth 2025 a chafwyd 11 o bobl yn galw i mewn. Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ymgysylltu yng Nghanolfan Antioch ar 27 Mawrth 2025, lle cafwyd 72 o bobl yn galw i mewn. Ar draws y ddwy sesiwn, roedd yr adborth a gafwyd ar y cynllun arfaethedig yn gadarnhaol dros ben. Gwnaeth y rheini a ddaeth i’r digwyddiadau ymgysylltu fynegi eu cefnogaeth i’r syniadau a gyflwynwyd, ac mae eu cyfraniadau wedi bod yn werthfawr ar gyfer dilysu trywydd y cynigion. Mae’r ymateb calonogol hwn wedi cryfhau’r achos dros fwrw ymlaen â’r opsiynau a amlinellwyd yn ystod y broses ymgysylltu.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Ar sail yr adborth cadarnhaol a grynhoir yn yr adroddiad hwn, argymhellir y gellid trosglwyddo’r dyluniad rhagarweiniol i’r cam cynllunio a dylunio manwl, gan sicrhau bod y cynigion yn ystyried ac yn mynd i’r afael, lle bo’n briodol, â’r sylwadau a wnaed gan y gymuned gyfagos.
