Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Y Ddwylan, Ysgol Cwrt Henri, Ysgol Gymraeg y Tymbl, Ysgol Llanybydder ac Ysgol Gynradd Talacharn o 4-11 i 3-11 oed wedi'i baratoi mewn ymateb i benderfyniad Cabinet y Cyngor Sir i gael gwared ar Bolisi Plant sy’n Codi’n 4 oed Sir Gaerfyrddin, lle roedd plant yn hanesyddol i fynd i addysg gynradd amser llawn ar ddechrau'r tymor ysgol pan oeddent yn troi'n bedair oed.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd rhwng 19 Ionawr 2024 a 1 Mawrth 2024, penderfynodd Cabinet y Cyngor ar 25 Mawrth 2024 gael gwared ar Bolisi Plant sy'n Codi'n 4 oed Sir Gaerfyrddin, sy'n golygu, o 1 Medi 2025, y bydd plant yn gymwys ar gyfer ysgol amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. O'r dyddiad hwn, ni fydd unrhyw blant mewn darpariaeth amser llawn sy'n dair oed.
Mae plant sydd wedi troi'n dair oed yn gymwys i gael o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth addysg gymeradwy anstatudol ar sail sesiynol ran-amser, naill ai yn un o'r 42 o ysgolion cynradd yn y sir sydd wedi'u dynodi'n ysgolion 3-11 a lle mae'r ddarpariaeth hon yn cael ei chynnal gan y Cyngor, neu o leiaf 10 awr o addysg mewn lleoliadau cymeradwy nas cynhelir, fel meithrinfeydd dydd neu Gylchoedd Meithrin. Mae rhieni sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at hyd at 30 awr o addysg a gofal plant wedi'u hariannu drwy Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3-4 oed cymwys.
Un o effeithiau cael gwared ar y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed yw y bydd plant yn aros mewn lleoliadau darpariaeth feithrin a gofal plant am dymor ychwanegol bellach. Yn y tymor byr, gallai hyn greu galw ychwanegol am ddarparu addysg anstatudol ar gyfer mwy o blant tair oed, a galw cynyddol am ofal cofleidiol o bosib. Yn ddelfrydol, bydd y galw hwn yn cael ei fodloni gan y sector nas cynhelir lle bydd darparwyr yn gallu ehangu'r ddarpariaeth i dderbyn mwy o blant ar gyfer naill ai o leiaf 10 awr o addysg neu ofal cofleidiol, neu'r ddau.
Mewn cymunedau lle nad yw hyn yn digwydd a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth o'r elfen addysg, mae’r Cyngor yn cynnig newid rhai o'n hysgolion 4-11 i fod yn ysgolion 3-11. Byddai hyn yn galluogi’r ysgolion hyn i ddarparu'r elfen o 10 awr o leiaf o addysg anstatudol a bod yn fwy cyson o ran darpariaeth ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ysgol 3-11 yn derbyn cyllid dirprwyedig gan y Cyngor ar gyfer darparu addysg ran-amser i blant 3 oed.
Felly, nod y cynnig hwn yw mynd i'r afael â'r bwlch o ran darparu o leiaf 10 awr o addysg anstatudol y Blynyddoedd Cynnar i blaent 3 oed trwy gynnig newid yr ystod oedran yn yr ysgolion.
Dogfennau Ategol
Sut i gymryd rhan
Gwahoddir ymgyngoreion i gyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cynnig trwy ysgrifennu llythyr i'r cyfeiriad isod neu drwy gwblhau arolwg ar-lein.
Fel arall, efallai y bydd ymgyngoreion yn dymuno cyflwyno sylwadau drwy e-bost i: RhMYYmgynghoriadau@sirgar.gov.uk
Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein hwn neu drwy gysylltu gan ddefnyddio’r dulliau amgen a ddisgrifir uchod a chyflwyno eich ymateb erbyn 16/10/2025.
Camau nesaf
Bydd Adroddiad Ymgynghori yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynnig ai peidio. Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi'r sylwadau a gyflwynwyd gan yr ymgynghoreion ac ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i'r sylwadau hyn.