Pam yr ydym yn ymgynghori

Fel y gwyddoch efallai, mae CDLl Diwygiedig 2018-2033 Cyngor Sir Caerfyrddin yn destun archwiliad annibynnol gyda'r sesiynau gwrandawiad wedi cael eu cynnal rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2024. 

Ar 31 Ionawr 2025, cyflwynodd yr Arolygwyr Cynllunio sy'n cynnal yr Archwiliad lythyr at y Cyngor yn cyfarwyddo'r gofyniad i ddod o hyd i safleoedd tai ychwanegol i'w nodi yn y CDLl Diwygiedig. Mae'r Cyngor wedi cynnal yr ymarfer hwnnw, ac rydym bellach yn cynnal ymgynghoriad ar y safleoedd ychwanegol hynny i gael sylwadau.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar y 27 Mawrth 2025 ac yn dod i ben am 4:30pm 15 Mai 2025. Sylwch mai ar gyfer gwneud sylwadau ar y safleoedd ychwanegol yn unig yw'r ymgynghoriad. Bydd unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â safleoedd eraill yn cael ei hystyried fel gohebiaeth na wnaed yn briodol.

Mae copïau o'r dogfennau ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor, yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor / Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid a llyfrgelloedd cyhoeddus (yn ystod oriau agor arferol).

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad Safleoedd Ychwanegol

Nodyn Arolygwyr ar y Cyflenwad Tai Ionawr 2025

 

Sut i gymryd rhan

Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn. 

Sylwch na ellir ymdrin â chynnwys eich sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.