Pam yr ydym wedi ymgynghori
Paratowyd y cynnig i gau Ysgol Gynradd Meidrim mewn ymateb i’r sefyllfa heriol y mae’r ysgol yn ei hwynebu, yn bennaf:
- Nifer isel o ddisgyblion
- Nifer uchel o lefydd gwag
- Amcanestyniadau isel o nifer y disgyblion a nifer uchel o leoedd a ragwelir
- Materion cyllideb yr ysgol
- Cyfran gyllideb uchel fesul disgybl
Canlyniad yr ymgynghoriad
Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynglŷn â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Meidrim o 31 Rhagfyr 2026 a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Griffith Jones, Sanclêr neu i Ysgol Hafodwenog, Tre-lech. Ar ôl ystyried yr adroddiad ymgynghori ar 1 Mehefin 2026, cytunodd aelodau Cabinet y Cyngor i fwrw ymlaen â'r cynnig a chymeradwyo cyhoeddi Hysbysiad Statudol.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno'r adborth a gasglwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a gynhaliwyd rhwng 19 Mehefin 2026 ac 17 Gorffennaf 2026 mewn ymateb i'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Meidrim a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Griffith Jones, Sanclêr neu i Ysgol Hafodwenog, Tre-lech.
Mae'r adroddiad yn amlinellu cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol a phroses y cyfnod gwrthwynebu, yn crynhoi'r gwrthwynebiadau a ddaeth i law, ac yn dadansoddi'r materion allweddol a'r sylwadau a gyflwynwyd gan randdeiliaid.
