Pam yr ydym wedi ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi comisiynu AtkinsRéalis i ymgymryd â’r gwaith i ddylunio gwelliannau i Oleuadau Traffig Halfway yn Llanelli.

Cyn y gwaith o greu’r dyluniad manwl sydd i ddechrau ym Mlwyddyn Ariannol 2026/2027 (sy’n amodol ar gymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru), hoffem ymgysylltu â'r cyhoedd a gofyn i chi rannu eich barn a'ch syniadau ynghylch sut y dylid datblygu'r gyffordd â signalau (a’r seilwaith trafnidiaeth gysylltiedig) ar sail y dyluniad cychwynnol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid rhanbarthol wedi ymrwymo i ddatblygu Llanelli fel lle iach, bywiog, ac atyniadol i fyw a gweithio.

Fel rhan o'r ymdrechion hyn, mae'r Cyngor yn cynnig gwella Goleuadau Traffig Halfway; sy’n cysylltu’r A4138 â Theras Glyncoed a Heol Llandafen yn ogystal â Pharc Manwerthu Pemberton i’r de.  Datblygwyd y gwelliannau yn wreiddiol fel rhan o Brosiect WelTAG Cysylltiadau Trefol ac Arfordirol Llanelli, a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thagfeydd ar hyd y coridorau strategol sy'n gwasanaethu Llanelli  a’r Llain Arfordirol ehangach. Cafodd y prosiect hwn ei ohirio oherwydd Pandemig COVID-19 ac Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd mynd i'r afael â materion y tagfeydd presennol o gwmpas  Goleuadau Traffig Halfway ar yr A4138, datblygwyd y cynllun gwelliant arfaethedig ar gyfer y lleoliad hwn ar ben ei hun.

Yn dilyn yr angen i fynd i’r afael â materion trafnidiaeth presennol o ran Goleuadau Traffig Halfway ar yr A4138, mae’r gwelliannau hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau trafnidiaeth presennol megis tagfeydd yn ystod cyfnodau brig, diogelwch ac oedi, yn ogystal â darparu Seilwaith Teithio Llesol. Mae’r cynnig presennol yn cael effaith gadarnhaol ar lif traffig, diogelwch i bob defnyddiwr ffordd, Teithio Llesol a dengarwch amgylcheddol. 

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thagfeydd yn ystod oriau brig, gan sicrhau taith mwy esmwyth a mwy dibynadwy i bob teithiwr yn yr ardal. Yn ogystal, mae’r cynllun yn anelu at hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy, megis trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, i annog ffyrdd o fyw iachach a mwy cynaliadwy.

Mae’r gwelliannau allweddol yn cynnwys: 

  • Ehangu lôn ddeuol yr A4138 (De) i ganiatáu lôn hirach wrth droi i’r dde ar y ffordd tuag at Gyffordd Morrisons a Halfway  (i Heol Llandafen)
  • Lôn a Phorth Fysiau arfaethedig ar Ffordd Ymadael Parc Manwerthu Pemberton.
  • Croesfan newydd â reolir ar Deras Glyncoed a gwelliannau i gyfleusterau Teithio Llesol presennol drwy ddarparu Llwybr Cyd-ddefnyddio ger cerbytffordd yr A4138 tua’r de yn arwain i mewn i Barc Manwerthu Pemberton (a fydd yn darparu cysylltiad ehangach â Phrif Lwybr Teithio Llesol Llanelli - gyda fideo ar gael drwy’r ddolen ganlynol Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol).