Pam yr ydym wedi ymgynghori

Rydym yn ceisio casglu barn trigolion a defnyddwyr gwasanaethau ar sawl maes allweddol i ddeall sut maen nhw'n teimlo am berfformiad y Cyngor er mwyn llywio ein gwaith cynllunio a phennu blaenoriaethau yn y dyfodol.

Rydym yn canolbwyntio ar gael dealltwriaeth o'r materion sy’n bwysig i unigolion a'u teuluoedd, a’u blaenoriaethau.

Gan adeiladu ar yr adborth a gasglwyd y llynedd, rydym nawr yn gofyn am eich barn fel preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth unwaith eto. Rydym am ddeall sut rydych yn teimlo am ein perfformiad a sicrhau bod ein cynllunio yn y dyfodol a'n gwaith o bennu blaenoriaethau yn cyd-fynd â'r hyn sydd ei angen. Bydd y canfyddiadau pwysig hyn yn cael eu rhannu ar bob lefel o'r sefydliad i lunio ein penderfyniadau ar adeg heriol.

Mae ymgynghori â'n trigolion ar berfformiad hefyd yn un o ofynion allweddol y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Yr arolwg hwn yw'r bedwaredd yn yr hyn a fydd yn sgwrs sy'n datblygu gyda phreswylwyr.