Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn gwahodd preswylwyr ac unigolion sydd â diddordeb i roi adborth ynghylch cymorth a gweithgareddau lleol sydd â'r nod o wella llesiant pobl, cysylltiadau cymunedol ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.
Gan adeiladu ar yr adborth a gasglwyd gennym yn 2023, hoffem glywed gennych eto i ddeall a yw eich anghenion neu'ch barn wedi newid. Yn benodol, hoffem wybod beth sy'n bwysig i chi a pha weithgareddau a fyddai'n gwella'ch ansawdd bywyd orau.
Os ydych yn defnyddio gwasanaethau cymunedol, gofynnir i chi rannu'ch meddyliau drwy gwblhau ein harolwg. Mae eich mewnbwn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y cymorth sydd ar gael yn ein cymuned.
