Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae’r cynnig wedi’i baratoi mewn ymateb i’r ffaith bod mwy o ddisgyblion yn Ysgol Heol Goffa na'r lleoedd sydd ar gael ac mae'r duedd hon yn debygol o barhau yn y dyfodol agos. Mae galw cynyddol am leoedd sy'n rhoi pwysau sylweddol ar yr Awdurdod Lleol i ddod o hyd i leoliadau i ddisgyblion.
Dogfennau ategol
Sut i gymryd rhan
Gwahoddir ymgyngoreion i gyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cynnig trwy ysgrifennu llythyr i'r cyfeiriad isod neu drwy gwblhau arolwg ar-lein.
Mr Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, Neuadd y Sir, Rhiw’r Castell, Caerfyrddin, SA31 1JP.
Fel arall, efallai y bydd ymgyngoreion yn dymuno cyflwyno sylwadau drwy e-bost i: RhMYYmgynghoriadau@sirgar.gov.uk
Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein hwn neu drwy gysylltu gan ddefnyddio’r dulliau amgen a ddisgrifir uchod a chyflwyno eich ymateb erbyn 21/07/2026
Camau nesaf
Bydd Adroddiad Ymgynghori yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynnig ai peidio. Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi'r sylwadau a gyflwynwyd gan yr ymgynghoreion ac ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i'r sylwadau hyn.
