Canfas Blynyddol 2026

Bob blwyddyn, rydym yn cysylltu â phob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin i gadarnhau pwy sy'n byw yn y cyfeiriad. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i ni allu gwirio a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir ac i gadw ein cofrestr o etholwyr cymwys yn gyfredol. Canfasiad Blynyddol yw'r enw ar hwn.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n cysylltu â chi drwy'r post, e-bost neu dros y ffôn yn dibynnu ar y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer. Darllenwch y wybodaeth yn ofalus a rhowch wybod i ni os oes unrhyw newidiadau i'w gwneud.

 

Sut i ddiweddaru eich manylion

Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen gyfathrebu am ganfasiad cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.

Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a anfonir atoch:

  • edrych ar y wefan: diweddaru eich manylion
  • côd diogelwch rhan 1 <enter number received>
  • côd diogelwch rhan 2 <enter number received>
  • diweddaru gwybodaeth am eich aelwyd a chyflwyno

Dylech gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.

Os ydych chi'n ychwanegu unrhyw etholwyr newydd, bydd angen iddyn nhw hefyd gwblhau cais cofrestru.

 Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid. Gall pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed a dinasyddion cymwys sy'n byw yng Nghymru bellach gofrestru i bleidleisio.

Os ydym wedi anfon ffurflen wag atoch drwy'r post, mae hyn yn golygu nad oes gennym unrhyw wybodaeth am y bobl sy'n byw yn y cyfeiriad. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein neu ei hanfon yn ôl atom drwy'r post. Os yw'r eiddo'n wag, bydd dal angen i chi lenwi'r ffurflen i gadarnhau nad oes unrhyw un yn byw yn y cyfeiriad.

 

Cartrefi gofal, cartrefi nyrsio ac ysbytai

Os ydych yn rheoli cartref gofal, cartref nyrsio neu lety ysbyty, byddwn yn anfon llythyr atoch a fydd yn cynnwys rhestr o'ch holl breswylwyr. Y ffordd hawsaf i gadarnhau'r manylion yw ar-lein. Fodd bynnag, os hoffech gynnwys manylion ychwanegol ar gyfer eich preswylwyr, megis rhoi gwybod i ni os oes ganddynt ddementia, cwblhewch y ffurflen bapur a'i hanfon yn ôl atom gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig.

 

Mae'n rhaid i chi ymateb yn ôl y gyfraith

Hyd yn oed os ydych wedi pleidleisio yn yr etholiadau diweddar mae dal rhaid ichi ymateb i'r ffurflen hon os oes angen gwybodaeth bellach arnom gennych.

Os na fyddwn yn derbyn ymateb gennych, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch drwy'r post, dros y ffôn neu drwy ymweld â'ch eiddo. Mae'n bwysig i chi ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani, ac os nad ydych yn gwneud hynny mae rheolau'r Llywodraeth yn golygu y gallech chi gael dirwy o £1,000.