Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Gair o groeso gan Arweinydd y Cyngor i'n Hadroddiad Blynyddol am 2023-2024

Mae'n adeg o'r flwyddyn unwaith eto pryd gallwn ni fwrw golwg ar ein cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf drwy ein Hadroddiad Cyngor Blynyddol. Wrth imi ysgrifennu’r cyflwyniad hwn, rwy’n ystyried ein sefyllfa fel sefydliad yr adeg hon y llynedd a'n sefyllfa ar hyn o bryd. Rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau i’r bron 188,000 o bobl sy'n galw Sir Gaerfyrddin yn gartref, gan wella pethau lle'r ydym wedi gallu a chyflawni rhai prosiectau arloesol, ond mae heriau sylweddol yn parhau i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweithio.

Fel yn achos pob Cyngor yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa ariannol anodd iawn. Bellach mae gennym lai o arian i ddarparu gwasanaethau a hynny mewn cyfnod pryd mae'r galw am ein help a'n cymorth yn cynyddu. Mae hyn yn rhwystredig ac yn destun pryder fel ei gilydd ond mae'n rhoi cyfle i ni feddwl a gwneud pethau'n wahanol. Mae ein Rhaglen Drawsnewid i sicrhau bod ein gwasanaethau mor effeithiol ac effeithlon â phosibl yn gweithio ledled y Sir i gefnogi hyn, ac yn cael ei hategu gan yr egwyddor sylfaenol i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae ein gwaith ymgynghori â phreswylwyr yn dweud wrthym fod yr argyfwng costau byw yn dal i fod yn her, a dyna pam y mae ein hymdrechion i gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn yn parhau. Mae ein gwasanaeth Hwb Bach y Wlad yn cynnig canllawiau a chymorth costau byw i breswylwyr sy'n byw yn y rhannau mwyaf gwledig o'r sir. Mae hyn yn cael ei ategu gan y cymorth a gynigir gan ymgynghorwyr Hwb yn y tair prif dref. Mae'n destun balchder clywed hanes y rheiny yr ydym wedi eu helpu.

Mae datblygiadau ym Mhentre Awel wedi parhau ar gyflymder, ac mae manteision ehangach i'r gymuned bellach yn cael eu gwireddu. Mae busnesau lleol wedi elwa ar gontractau, mae swyddi wedi'u creu ac mae rhaglenni hyfforddiant i brentisiaid, graddedigion a hyfforddeion wedi'u cefnogi.Mae'r prosiect unigryw hwn yn argoeli'n dda iawn i'r Sir ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd dros y flwyddyn nesaf.

Mae adfywiad economaidd y Sir yn parhau gydag ailddatblygiadau gan gynnwys adeilad yr YMCA yn Llanelli, Neuadd y Farchnad Llandeilo a Pharc Gelli Werdd yn Cross Hands gyda'r amlycaf. Mae'r mannau hyn yn cynnig cymysgedd o ofod adwerthu, swyddfeydd a mannau preswyl sy'n cefnogi'r ardal leol drwy ddenu buddsoddiad, cefnogi busnesau a chreu swyddi.

Roedd arolwg allanol o'n Gwasanaethau Addysg yn canmol ein gweledigaeth glir a'n harweinyddiaeth gref sy'n cael effaith gadarn ar wella darpariaeth addysg a chanlyniadau dysgwr. Mae diwylliant o hunanwerthuso yn dangos ein hymrwymiad i adolygu'r gwasanaeth yn barhaus i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae presenoldeb wedi gwella, darperir prydau ysgol am ddim i'r holl grwpiau oedran priodol ac mae athrawon a disgyblion yn parhau i gyd-ddylunio cwricwlwm dysgu sy'n seiliedig ar y Cwricwlwm i Gymru. Rydym hefyd yn llwyr gydnabod y pwysau ariannol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu a byddwn yn parhau i weithio gydag arweinwyr ysgol i fynd i'r afael â'r heriau parhaus hyn.

Mae mynediad at Wasanaethau Gofal Iechyd yn flaenoriaeth i'n preswylwyr ac er bod y rhan fwyaf o'r gwaith hwn y tu allan i gylch gwaith y Cyngor, rydym wedi gwneud camau sylweddol wrth ddatblygu gwasanaethau atal. Mae buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl wedi ein galluogi i sefydlu llwybr llesiant ledled y Sir sy'n darparu dull cynhwysol ac ataliol ac mae gwaith pellach ar fentrau ataliol yn cael ei ddatblygu ar y cyd â phartneriaid.

Rydym wedi datblygu ystod o gamau gweithredu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd ac rydym yn gwneud cynnydd lle gallwn, ond rydym hefyd yn cydnabod bod heriau sylweddol i fynd i'r afael â hwy. Rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i wneud cynnydd ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid lleol a chenedlaethol gan gynnwys Llywodraeth Cymru ar yr agenda hon.

Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, er gwaetha'r heriau, rydym yn parhau i wneud cynnydd da mewn sawl maes ynghyd â bod mor arloesol a gwydn â phosibl yn wyneb pwysau a gofynion sylweddol. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'n staff, aelodau etholedig, sefydliadau partner ac ystod o randdeiliaid am eu hymdrechion a'u cymorth parhaus yn ein hymgais i wneud cynnydd pellach i wella bywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.