Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024
Amcan Llesiant 1
Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)
Trosolwg Cynnydd
Mae cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd yn rhoi sylfaen gref ar gyfer cyfyngu ar anghydraddoldebau. Caiff yr hyn sy'n digwydd yn y blynyddoedd cynnar hyn effaith hirdymor ar ganlyniadau iechyd a llesiant, cyflawniad addysgol, a statws economaidd. Credir bod 34.6% o blant Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, felly mae'n hanfodol bod pob plentyn yn cael mynediad i'r un cyfleoedd, beth bynnag fo'u cefndir, a'u bod yn cael y cymorth cywir pryd a lle mae ei angen arnynt.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud ei orau glas yn hyn o beth, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar a system addysg sy'n gweithio'n dda ac sy'n cydnabod bod pob plentyn yn unigolyn. Cafodd ein gweledigaeth glir a’n harweinyddiaeth gref eu canmol mewn arolygiad allanol o’n Gwasanaethau Addysg, a chaiff hynny effaith bendant ar wella darpariaeth addysg a deilliannau dysgwyr. Dengys diwylliant o hunanwerthuso ymrwymiad i adolygu’r gwasanaeth yn barhaus, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Rydym yn parhau â'n hymdrechion i gadw plant gartref gyda'u teuluoedd lle bo hynny'n bosibl, ac mae cyfradd gymharol isel y sir ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn dangos hynny. Rydym hefyd yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â'r prinder gofalwyr maeth a nodwyd yn y Sir. Mae nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant wedi cynyddu, ond mae'r lefel dal yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru. Mae cynllunio strategol yn canolbwyntio ar atal a meddwl yn gydlynol, ac mae'r Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Ranbarthol yn enghraifft nodedig o hyn.
Rydym yn cydnabod bod angen gwella'r cynnig gofal plant yn y Sir, ac mae camau priodol yn parhau i gael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â hyn. Bydd mwy o ardaloedd yn elwa ar leoedd gofal plant a ariennir drwy ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg, ac mae Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant wedi'i ddatblygu sy'n canolbwyntio ar gynyddu'r cynnig yn gyffredinol, ynghyd â ffocysu ar gryfhau'r cynnig cyfrwng Cymraeg.
Mae ein gwasanaeth addysg yn darparu cwricwlwm cyflawn sy'n ystyried anghenion unigol pob dysgwr. Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cefnogaeth dda trwy ein ffocws strategol ar ddarparu cynnig addysg gynhwysol, ac mae ysgolion wedi ymateb yn dda i ddiwygiadau. Er bod presenoldeb wedi gostwng yn dilyn cyfnod Covid, rydym yn gweld rhai arwyddion o adferiad. Fodd bynnag mae hon yn flaenoriaeth barhaus yn sicr er mwyn sicrhau gwelliant pellach sy'n cael ei gynnal. Caiff presenoldeb ei fonitro'n agos ar gyfer yr ysgol gyfan yn ogystal ag ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion fel y rhai sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae athrawon a disgyblion yn cyd-lunio cwricwlwm cyflawn sy'n seiliedig ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae ffocws ar brofiadau dysgu y mae codi safonau addysgol yn rhan annatod ohonynt, gan ddatblygu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn effeithiol yn ogystal â sgiliau Cymraeg a Saesneg dwyieithog. Nodwyd meysydd i'w dathlu a'u gwella mewn arolygiad diweddar gan Estyn, ac adlewyrchir hynny yn yr adroddiad hwn.
Sir Gaerfyrddin sydd â'r lefelau gordewdra yn ystod plentyndod uchaf yng Nghymru gyda 30.5% o blant 4-5 oed dros bwysau neu'n gordewdra. Mae ymrwymiad y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn yn amlwg yn yr amrywiaeth o fentrau Actif sydd ar waith i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc fynediad at weithgareddau sy'n gwella eu hiechyd a'u llesiant. Yn ogystal, mae cyflwyniad cyffredinol y cynnig prydau ysgol am ddim yn parhau i symud ymlaen yn dda gan sicrhau bod plant yn cael prydau maethlon a chytbwys sy'n cefnogi eu datblygiad.
Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:
- Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 1a: Bywydau Iach – atal / ymyrraeth gynnar
- Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 1b: Blynyddoedd Cynnar
- Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 1c: Addysg
Yn Gryno
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i alluogi plant a phobl ifanc i gael dechrau cadarnhaol mewn bywyd, a phrofir hyn gan yr ymagwedd amlochrog at gefnogi llesiant a datblygiad plant a phobl ifanc yn y gymuned.
Er bu cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, mae ein cyfraddau'n gymharol isel yng nghyd-destun awdurdodau lleol eraill.
Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau maeth wedi cynyddu wrth i'r prinder gofalwyr maeth fod yn her. Fodd bynnag, ceir ymdrechion i fynd i'r afael â hyn trwy gydweithio â Maethu Cymru ac ymgyrch recriwtio genedlaethol.
I gydnabod pwysigrwydd bod yn actif yn ifanc, mae'r rhaglen 'Amser Actif' yn datblygu hyder a sgiliau corfforol plant ysgol gynradd, gan ddangos gwelliannau sylweddol mewn symudiadau a sgiliau trin ymhlith y cyfranogwyr.
Gwelwyd llwyddiannau hefyd mewn nofio mewn ysgolion, gyda chanran nodedig o'r cyfranogwyr yn cyrraedd safon 'nofiwr diogel'.
Mae'r tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd wedi gweithio i wella nifer y disgyblion ysgol sy'n derbyn brechiadau.
Ein prif ffocws yw sicrhau bod plant yn ddiogel trwy fuddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar yn ogystal â dulliau arloesol o ddiogelu. Mae gennym weithlu cryf sy'n ymwybodol o drawma ac sy'n gweithio mewn model sy'n ymwybodol o ymlyniad, sy'n cadw plant a phobl ifanc yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn gan ddefnyddio signs of safety i gadw teuluoedd gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd.
Sut ydyn ni’n gwneud?
Rydym yn parhau i fod â'r nifer isaf o blant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed yn Sir Gaerfyrddin o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, ac ymhell islaw cyfartaledd Cymru o 116.33. Ein ffigwr ar ddiwedd mis Mawrth 2023 oedd 51.80 fesul 10,000 o'r boblogaeth, ac mae hyn yn cyfateb i 190 o blant sy'n derbyn gofal. Ddiwedd mis Mawrth 2024 cynyddodd hyn i 259, sef cynnydd o 36%. Ni fydd y data cymharol ar gyfer hyn fesul 10,000 o'r boblogaeth ar gael tan ddiwedd 2024, ond rydym wedi bod yn isel yng nghyd-destun awdurdodau lleol eraill ers blynyddoedd lawer.
Roedd 209 o blant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau maeth ar 31 Mawrth 2024, o'i gymharu â 149 y flwyddyn flaenorol. Mae prinder gofalwyr maeth yn lleol ac yn genedlaethol o hyd sy'n effeithio ar sefydlogrwydd lleoliad. Mae'r adran yn cydweithio ar draws y rhanbarth gyda Maethu Cymru a derbyniodd ymgyrch recriwtio gofalwyr maeth cenedlaethol sylw mawr yn y cyfryngau.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 4-7 -
Yn Gryno
Mae cyfradd gymharol isel y sir o Blant sy'n Derbyn Gofal yn dystiolaeth o'r gwaith ataliol a wneir yn Sir Gaerfyrddin a'n hymrwymiad parhaus i gadw plant gartref gyda'u teuluoedd lle bo hynny'n bosibl.
Mae ein Strategaeth Cymorth i Deuluoedd yn cael ei hadolygu i fod yn Strategaeth Blynyddoedd Cynnar, gan sicrhau bod gwasanaethau ymyrraeth gynnar yn diwallu'r anghenion ar yr adeg gywir.
Mae'r Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Ranbarthol wedi'i lansio, gyda blaenoriaethau lleol ar gyfer mamolaeth a thrawsnewid blynyddoedd cynnar yn cael eu gweithredu.
Mae ehangiad gofal plant Dechrau'n Deg yn cael ei gyflwyno i ddarparu gofal plant wedi'i ariannu o safon i fwy o ardaloedd, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r diwylliant.
I gydnabod pwysigrwydd cynnig gofal plant digonol a'r gostyngiad yn nifer y lleoedd gofal plant yn y sir rhwng 2022/23 a 2023/24, datblygwyd Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant.
Yn ogystal, mae ymdrechion i sicrhau gweithlu sefydlog yn y gwasanaethau plant, drwy ail-alinio'r tîm rheoli, gweithredu fframwaith dilyniant ymarferwyr profiadol, a recriwtio hyfforddeion gweithwyr cymdeithasol newydd.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Bu'n rhaid i 8.5% o blant mewn gofal yn Sir Gaerfyrddin yn 2023/24 symud 3 gwaith neu fwy yn ystod y flwyddyn, sy'n cyfateb i 22 allan o'r 259 o blant, o gymharu â 7.4% (14 allan o 190) yn 2022/23. Roedd cynnydd o 36% yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal ar 31 Mawrth 2024, i 259 o gymharu â 190 y flwyddyn flaenorol.
Mae 213 o ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn cynnig 4,214 o leoedd gofal plant a ddarperir gan warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd meithrin, Dechrau'n Deg, Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau. Mae adroddiad cryno ein 5ed Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Statudol yn parhau i gael ei rannu gyda darpar-ddarparwyr gofal plant, ac mae hefyd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Cefnogwyd 10,461 o unigolion o'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac o'u plith roedd 6,234 (60%) yn unigolion newydd.
78.1% presenoldeb plant mewn lleoliad gofal plant di-dâl Dechrau'n Deg a neilltuwyd ar gyfer plant cymwys 2-3 oed i'w paratoi ar gyfer yr ysgol, sy'n fwy na'r targed o 75%.
Roedd 97% o deuluoedd sydd ag anghenion llesiant cymdeithasol ychwanegol cysylltiedig â thlodi, sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, yn derbyn ymyriadau amser penodol gan y Tîm Dechrau'n Deg ehangach.
Cafwyd cyfradd absenoldeb anawdurdodedig o 1.5% mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg rhad ac am ddim a neilltuwyd ar gyfer plant 2-3 oed cymwys i'w paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae'n galonogol gweld teuluoedd yn rhoi gwybod am absenoldeb ac yn ymgysylltu â lleoliadau gofal plant wrth roi gwybod am absenoldeb.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 9-12 -
Yn Gryno
Mae presenoldeb wedi gwella yn 2023-24, ac mae'r Strategaeth Bresenoldeb ar fin cael ei chwblhau, gydag adnoddau cymorth i ysgolion yn parhau i gael eu mireinio a'u datblygu ymhellach.
Mae nifer y Disgyblion ym Mlynyddoedd 11 ac 13 nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi cyflawni gwaith ieuenctid pontio ôl-16 yn unol â Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal, ac i gyflawni ein blaenoriaethau uchelgeisiol.
Fel un tîm Addysg a Gwasanaethau Plant, rydym wedi gweithio'n effeithiol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael cefnogaeth lwyddiannus i gael mynediad i'w haddysg a'r holl wasanaethau oedd eu hangen arnynt.
Roedd y gwahanol arolygiadau wnaed yn ystod 2023/24 yn dystiolaeth o hyn. Nododd arolygiad Estyn o'n gwasanaethau Addysg Awdurdod Lleol: ‘Caiff gwasanaethau addysg Sir Gaerfyrddin eu harwain yn gadarn gan uwch-swyddogion ac aelodau etholedig, sy'n rhannu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yn yr awdurdod. Cefnogir hyn gan ddiwylliant agored a chadarnhaol a phrosesau hunanwerthuso a chynllunio gwella sy'n drylwyr, ar y cyfan. Trwy hyn, mae arweinwyr yn cael effaith gadarnhaol ar wella'r ddarpariaeth addysg a chanlyniadau dysgwyr yn y rhan fwyaf o'u meysydd cyfrifoldeb ac yn gallu gosod cyfeiriad clir ar gyfer gwelliant pellach yn y dyfodol…’
Sut ydyn ni’n gwneud?
Mae'r Cyngor yn cynnal 1 ysgol feithrin, 94 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd ac 1 ysgol arbennig sy'n darparu addysg i fwy na 27,000 o ddisgyblion.
Derbyniodd ein harolwg preswylwyr 2023 bron i 4,000 o ymatebwyr, gyda'r mwyafrif yn cytuno bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc gyda sgôr[1] o 0.41. Mae hyn yn ostyngiad bach ar sgôr 2022 o 0.52 ond mae'n parhau i fod yn gytundeb cyffredinol.
Mae cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant yn ystod 2023/24 gyda 2.3% (46 allan o 1,987) o gymharu â 1.9% (36 allan o 1,914) y flwyddyn flaenorol.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 14-28 -