Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024
Mesur Cynnydd a Hunanasesu
Yn greiddiol i'n hamcanion llesiant mae egwyddor sy'n hyrwyddo ffocws ar bob corff cyhoeddus yn cydweithio i ddatblygu canlyniadau sy'n gwella ansawdd bywyd dinasyddion a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
I fesur yn effeithiol ein cynnydd yn erbyn cyflawni ein hamcanion, rydym yn edrych ar ystod o ddata a thystiolaeth gan gynnwys canfyddiadau ein hunanasesiad a chanfyddiadau adroddiadau rheoleiddio i greu darlun mor gynhwysfawr â phosibl o'n cynnydd o ran tueddiadau dros amser ac o ran y modd yr ydym yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Er mwyn i ni wneud hyn yn effeithiol, rydym wedi datblygu cyfres ddata o ddangosyddion a mesurau, sydd, pan gânt eu hystyried gyda'i gilydd, yn cwmpasu ystod eang o wahanol ffynonellau, gan ein galluogi i fyfyrio ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn gyffredinol. Mae'r ystod o ddata yn cwmpasu'r canlynol a chyfeirir ato drwy gydol yr adroddiad hwn a gellir ei weld yn llawn yn Atodiad 5:
Dangosyddion Poblogaeth
Yn bennaf maent yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd ac a nodwyd i ddatblygu dealltwriaeth o dueddiadau a sefyllfa Sir Gaerfyrddin mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'r ffynonellau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mesurau Perfformiad
- Cynnwys ffurflenni statudol, mesurau mewnol y Cyngor a gwybodaeth sylfaenol ar ffurf canfyddiadau ymgynghori yr ydym yn eu defnyddio i fesur a monitro perfformiad yn rheolaidd. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw'r rhain
- Mae ein hamcanion llesiant hefyd yn fframio ein hymagwedd at hunanasesu. Mae'r ymagwedd hon yn rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol:
- Mae'n sicrhau bod ein hunanasesiad yn strategol, gan ganolbwyntio ar y sefydliad, yn hytrach na gwasanaethau unigol ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei amcanion llesiant a'i ganlyniadau bwriadedig.
- Mae'n caniatáu inni fyfyrio ar lefel strategol ar sut mae ein holl swyddogaethau (gan gynnwys gweithgareddau corfforaethol) yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, sut rydym yn gweithredu a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i wella ymhellach a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol nawr ac yn y tymor hir.
- Mae defnyddio amcanion llesiant fel y fframwaith cyffredinol yn annog golwg fwy cyfannol ar berfformiad y Cyngor, gan gydnabod bod llawer o wasanaethau'n 'cydlynu' ac yn cyfrannu at un neu ragor o amcanion llesiant.
- Rydym yn parhau i reoli perfformiad gwasanaethau unigol drwy Gynlluniau Busnes Is- adrannol. Mae hyn yn rhan bwysig o ddull y Cyngor o reoli perfformiad fel y manylir yn ein Fframwaith Rheoli Perfformiad sy'n seiliedig ar gylch Cynllun/Gwneud/Adolygu.