Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

O ran darpariaeth ar gyfer plant derbyn/5 oed rydyn ni mewn sefyllfa gadarn a’n bwriad yw adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei gyflawni ar draws y sir. Canran a nifer y plant dosbarth derbyn/plant pum mlwydd oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (2021)- 62.5%. Sir Gâr yw’r awdurdod lleol sydd a’r nifer uchaf o ddysgwyr Derbyn sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Sefyllfa Bresennol

Math o Ysgol Nifer Dysgwyr
Meithrin/Cynradd 15,812
Uwchradd 11,498

 

Ysgolion Cynradd - natur ieithyddol

  1. Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Defnyddir y Gymraeg fel iaith cyfathrebu â'r disgyblion ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  2. Dwy ffrwd: Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg yng ngwaith beunyddiol yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  3. Drawsnewidiol: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu naws Gymreig. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  4. Saesneg gyda Chymraeg arwyddocaol: Cyd-destun ieithyddol yr ysgol sy'n pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith fel ieithoedd cyfathrebu â'r disgyblion, rhieni ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol.
  5. Cyfrwng Saesneg: Saesneg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol, ond defnyddir peth Cymraeg hefyd fel iaith cyfathrebu â’r disgyblion. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.

 

Rydyn ni wedi sicrhau cynnydd yn y nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran darpariaeth addysg. Mae hynny wedi digwydd wrth i ni weithio gyda Llywodraethwyr a chymunedau ysgolion i’w symud ar hyd y continwwm ieithyddol gan newid categori iaith ysgolion drwy ymgynghoriadau cyhoeddus. Yn ystod cyfnod Cynllun 2017-2022 fe newidiwyd categorïau iaith 7 o ysgolion cynradd gan greu o gwmpas 210 o leoedd newydd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Derbyn.

Canran y disgyblion Derbyn Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Gweledigaeth Sir Gaerfyrddin yw symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith ac ymgorffori dull trochi yn y Cyfnod Sylfaen dros amser gan gynyddu cyfleoedd i bob dysgwr ar draws y sir o bob cefndir ieithyddol gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd newidiadau arfaethedig i ddynodiadau ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sir. Bydd gweithio o fewn amserlen o 7-10 mlynedd yn sicrhau nad yw’r un ysgol yn sefyll yn ei hunfan. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn amlygu'r angen enfawr am hyfforddiant iaith dwys i'r holl staff ar draws pob cyfnod allweddol yn ogystal â hyfforddiant sgiliau iaith pwnc yn y sector uwchradd yn arbennig.

Mae swyddogion wedi dechrau gweithredu hyfforddiant yn y sector Cynradd ac Uwchradd ac mae cynllun strategol ar waith o ran targedu ysgolion penodol wrth symud ar hyd y continwwm iaith- mae pump ohonynt wedi llwyddo i wneud hynny yn ystod 2019/2020.

Mae’r ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid yn hollbwysig o ran cyrraedd y nodau hyn. Rydym wedi buddsoddi mewn Canolfan Iaith newydd a fydd yn darparu gwersi i hwyrddyfodiaid o'r sector Cynradd ac Uwchradd. Bydd hwn yn adeilad pwrpasol lle gall disgyblion o bob oed ddysgu Cymraeg mewn amgylchedd arloesol uwch-dechnoleg fodern.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm Cymraeg i Oedolion ar hyfforddiant ac arweiniad ar ddysgu cyfrwng Cymraeg, addysgeg a defnydd iaith yn yr ystafell ddosbarth. Mae tiwtoriaid Athrawon Datblygu'r Gymraeg a'r tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion wedi cydweithio i greu continwwm dysgu ar gyfer staff addysgu yn seiliedig ar iaith berthnasol yn yr ystafell ddosbarth.

Gyda daearyddiaeth mor eang o fewn y sir, bydd Microsoft Teams/Zoom a Google Classrooms hefyd yn cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd pob disgybl. Bydd hyn yn barhad o'r gwaith a gynlluniwyd ac a wnaed yn ystod Covid-19 yn 2020/2021.

  • 2026-2027

    Yn ystod oes y Cynllun hwn, er mwyn diwallu dyhead Sir Gaerfyrddin a tharged Llywodraeth Cymru, byddwn yn newid natur ieithyddol nifer o ysgolion. Ein dyhead yw cyrraedd y targed o gynnydd o 14+% yn y nifer o ddysgwyr Blwyddyn 1 sy’n dilyn llwybr addysg cyfrwng Cymraeg. O safbwynt penderfynu pa ysgolion fydd yn ffurfiol newid eu darpariaeth a’u natur ieithyddol, byddwn yn ystyried ffactorau megis parodrwydd rhieni a’r gymuned i gefnogi’r newid, sicrhau fod gennym weithlu digonol gyda’r sgiliau angenrheidiol, bod corff llywodraethu’r ysgol yn gefnogol a bo’r pennaeth a’r arweinyddiaeth hŷn yn bleidiol ac yn barod i gynorthwyo i yrru’r esblygiad dan sylw yn ei flaen.

    Er mwyn gwneud hynny bydd angen-

    • Cynorthwyo ein hysgolion Trosiannol i symud i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
    • Cynorthwyo rhai o’n hysgolion dwy ffrwd i symud i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
    • Cynorthwyo rhai o’n hysgolion Cyfrwng Saesneg i fod yn ysgolion dwy ffrwd neu ddwy iaith.
    • Cynorthwyo ein hysgolion uwchradd/arbennig i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan ystyried dynodiad ieithyddol.

     

    Sefyllfa Bresennol ysgolion cynradd

      Cyfrwng Cymraeg Dwy Ffrwd Trawsneidiol Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg Cyfrwng Saesneg
    Math o ysgol 56 9 2 3 24
    Nifer o leoedd 7409 2685 295 683 4653

     

    Targed erbyn diwedd y Cynllun

    Newid Categori a darpariaeth ieithyddol 10 ysgol gynradd (drwy ymgynghoriad cyhoeddus) er mwyn sicrhau cynnydd o 300+ o ddysgwyr Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

    Blwyddyn 2022 -2027 2028-2032
    Targed 4 6

     

    Er mwyn cefnogi’r ysgolion i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn yn:

    • Datblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Cefnogi ein hysgolion dwy ffrwd a throsiannol presennol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y tymor byr.
    • Bydd Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Moderneiddio Ysgolion) y Cyngor Sir yn anelu at sicrhau cynnydd mewn lleoedd cyfrwng Cymraeg.
    • Cefnogi ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu darpariaeth y Cyfnod Sylfaen Cymraeg.
    • Ymestyn ystod oedran ysgolion penodol a chreu lle ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
    • Monitro'r galw yn ein hardaloedd trefol yn barhaus ac yn hyrwyddo ac yn ehangu'r ddarpariaeth yn ôl y gofyn.
    • Byddwn yn rhoi cymorth ac arweiniad i ysgolion drwy ein tîm Athrawon Datblygu'r Gymraeg ar sut i ymateb i ymholiadau gan rieni.
    • Byddwn yn rhannu deunyddiau gyda rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid mewn perthynas â gwerth dwyieithrwydd er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar bob cam trosiannol.
    • Byddwn yn cynyddu'r pontio rhwng y grwpiau meithrin a'r Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn sicrhau bod rhieni, drwy ein llyfryn ‘Gwybodaeth i Rieni’ yn gwybod pa ysgolion sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2-5. Bydd y wybodaeth am natur ieithyddol pob ysgol, yn unol â dynodiadau ysgol newydd Llywodraeth Cymru Rhagfyr 2020, hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
    • Byddwn yn cyflwyno ceisiadau am arian grant gan Weinidogion Cymru o ran cyrraedd a disodli ein targedau penodol i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun yn bennaf ar gyfer hyfforddiant Iaith.

    Yn ogystal a newid ffurfiol mewn darpariaeth a chategori, y disgwyl yw y bydd pob ysgol yn symud a datblygu o fewn i’w chategori yn unol â nodau yn eu Cynlluniau Datblygu Ysgol.

    Datblygu ein Canolfannau Iaith

    Nod prosiect datblygu Canolfannau Iaith Sir Gâr yw adeiladu ar brofiad blaenorol ac adborth cadarnhaol a gafwyd hyd yma yn y maes hwn o ddarparu gwasanaethau ac i gyd fynd â'r ddarpariaeth yn ardal San Clêr a Llandeilo bydd angen sicrhau ymarferoldeb y canolfannau iaith i alluogi addysg drochi i ddysgwyr ar draws y sir gyfan. Bydd gan y ganolfan iaith sawl diben gan gynnwys bod yn gymorth allweddol wrth ddatblygu addysgeg ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg fel un continwwm.

    Mae gan y prosiect 5 prif amcan:

    1. Sicrhau bod pob disgybl sy'n hwyrddyfodiaid i Sir Gaerfyrddin yn dod yn ddwyieithog drwy ddarparu addysg drochi ar lefel gynradd ac uwchradd
    2. Cynnig gloywi iaith i hwyrddyfodiaid a dysgwyr brodorol ar adegau pontio hanfodol megis diwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ryngwyneb Cyfnod Allweddol 2/3, a bod cyllid ar gael ar gyfer cludiant iddynt.
    3. Cyflwyno rhaglenni ‘dal i fyny’ ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 6/7 lle mae angen gwella sgiliau iaith er mwyn sicrhau pontio hwylus i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
    4. Darparu datblygiad proffesiynol i wella sgiliau athrawon a chefnogi staff yr ysgol i'w galluogi i addysgu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Hefyd, gwella sgiliau Cymraeg staff, yn enwedig y rhai ar daith continwwm iaith. Bydd hyn yn adeiladu ar brosiect peilot arloesol ardal Llanelli lle mae staff o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg wedi cymryd rhan mewn dull deublyg o ymdrin â chymorth iaith Gymraeg.
    5. Sicrhau profiadau cadarnhaol o ddysgu iaith i rieni a gwarcheidwaid i'w galluogi i gefnogi eu plant i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ac i helpu i atgyfnerthu eu dysgu gartref.
  • 2031-2032

    Bydd y strategaethau uchod yn ein galluogi i fod mewn sefyllfa lle bydd newid parhaus mewn meddylfryd ar draws y sir yn cael ei annog. Mae hyfforddiant yn hollbwysig a byddwn yn ymdrechu i weithio gyda phob asiantaeth allanol ac yn bennaf gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid hirdymor.

    Byddwn yn sicrhau bod gan rieni a gofalwyr ddealltwriaeth dda o addysg cyfrwng Cymraeg drwy gysylltiadau cyfathrebu da a rhannu gwybodaeth yn barhaus drwy wefannau ysgolion a chyfryngau cymdeithasol.

    Ein nod yw integreiddio rhieni a gofalwyr i fywyd bob dydd yn yr ysgol drwy gynnig Cyrsiau dysgu iaith ochr yn ochr sy'n seiliedig ar ein gwasanaethau Cymraeg i'r Teulu lle mae rhieni a gofalwyr yn dysgu caneuon, rhigymau a geirfa a brawddegau ystafell ddosbarth o ddydd i ddydd yn ogystal â chwrs Cymraeg yn y Cartref. Y nod yma yw bod rhieni/gofalwyr yn cychwyn sgyrsiau syml yn y cartref yn ogystal â gallu canu gyda'u plant. Anogir rhieni hefyd i gynnal eu dysgu drwy ymuno â chyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion.

    Bydd hyn, ar y cyd â'r polisi dynodi ysgolion newydd, yn ein galluogi i gyflymu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Bydd egwyddorion trochi o fewn holl leoliadau'r Cyfnod Sylfaen yn gwneud y daith iaith yn llawer mwy ymarferol.

    Rydym eisoes yn gweithio gydag ysgolion ac yn mynd drwy'r broses ymgynghori er mwyn dechrau taith trochi iaith ym mhob ysgol waeth beth fo’u chategori neu ei dynodiad.

  • Data Allweddol

    Niferoedd a % y plant 5 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

     

    2022-2023 2023-2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    1169 / 62.5% 1229(+60) / 65.7% 1244 / 66.5% 163 / 67.5% 1269(+60) / 68.9%
             
    2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
    1327 / 71% 1356 / 72.5% 1379(+60) / 73.7% 1430 / 76.5% 1469(+60) / 78.5%