Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl

Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl

Mae Adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu diffiniadau o ‘cam-drin’ ac ‘esgeuluso’.

Ystyr cam-drin yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall)

Ystyr esgeuluso yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person).

Mae’r canlynol yn rhestr anghynhwysfawr o enghreifftiau ar gyfer pob categori cam-drin ac esgeuluso:

Taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth amhriodol neu sancsiynau amhriodol.

Mathau o gam-drin corfforol

  • Ymosod, taro, slapio, dyrnu, cicio, tynnu gwallt, brathu, gwthio
  • Trin yn arw
  • Sgaldio a llosgi
  • Cosbau corfforol
  • Defnydd amhriodol neu anghyfreithlon o ataliaeth
  • Gwneud rhywun yn anghysurus ar bwrpas (e.e. agor ffenestr a mynd â blancedi oddi wrtho)
  • Ynysu neu gaethiwed anwirfoddol
  • Camddefnyddio meddyginiaeth (e.e. gor-dawelyddu)
  • Bwydo trwy rym neu wrthod rhoi bwyd
  • Ataliaeth anawdurdodedig, cyfyngu ar symudiad (e.e. clymu rhywun yn sownd mewn cadair)

Arwyddion posibl o gam-drin corfforol

  • Dim esboniad ar gyfer anafiadau neu anghysondeb â’r cyfrif o’r hyn a ddigwyddodd
  • Mae’r anafiadau’n anghyson â ffordd y person o fyw
  • Cleisio, toriadau, waldiau, llosgiadau a/neu farciau ar y corff neu golli gwallt mewn talpiau
  • Anafiadau mynych
  • Cwympiadau heb eu hegluro
  • Ymddygiad sy’n dawedog neu wedi newid ym mhresenoldeb person penodol
  • Arwyddion o ddiffyg maeth
  • Methiant i geisio triniaeth feddygol neu newid y meddyg teulu’n fynych

Treisio ac ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw’r
oedolyn wedi cydsynio neu na allai’r oedolyn gydsynio â hwy a/neu y rhoddwyd pwysau ar yr oedolyn i gydsynio â hwy.

Gall arwyddion o gam-drin rhywiol fod yn gorfforol ac yn ymddygiadol, gan gynnwys:

  • Clefydau a drosglwyddir yn rhywiol yn dod i’r amlwg o’r newydd
  • Anhawster eistedd neu gerdded sydd wedi dod i’r amlwg o’r newydd
  • Anaf pelfig
  • Cleisiau ar du mewn y cluniau neu o gwmpas yr organau cenhedlu
  • Poen, gwaedu neu gosi yn yr anws neu’r organau cenhedlu
  • Dillad isaf sy’n waedlyd, wedi rhwygo neu â staen arnynt
  • Cynnwrf eithafol
  • Tynnu’n ôl o ryngweithiadau cymdeithasol
  • Pyliau o banig, neu anhwylder straen wedi trawma
  • Ymddygiad rhywiol amhriodol, ymosodol neu anarferol
  • Ymgeisiau i gyflawni hunanladdiad

Bygythiadau i wneud niwed i rywun neu ei adael, rheolaeth drwy orfodaeth, bychanu, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu neu dynnu’n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol (mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, bychanu, dychrynu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr)

Mathau o gam-drin seicolegol neu emosiynol

  • Ynysu cymdeithasol dan orfodaeth – atal rhywun rhag cael mynediad at wasanaethau, cyfleoedd addysgol a chymdeithasol a rhag gweld ffrindiau
  • Tynnu cymhorthion symudedd neu gyfathrebu i ffwrdd neu adael rhywun yn fwriadol heb unrhyw un i ofalu amdano pan fo angen cymorth arno
  • Atal rhywun rhag diwallu ei anghenion crefyddol a diwylliannol
  • Atal rhywun rhag mynegi ei ddewis a’i farn
  • Methiant i barchu preifatrwydd
  • Atal symbyliad, galwedigaeth neu weithgareddau ystyrlon
  • Dychrynu, gorfodaeth, aflonyddu, defnyddio bygythiadau, bychanu, bwlio, rhegi neu gam-drin geiriol
  • Cyfarch person mewn ffordd nawddoglyd neu sy’n ei drin fel plentyn bach 
  • Bygythiadau i wneud niwed i rywun neu ei adael
  • Seiberfwlio

Arwyddion posibl o gam-drin seicolegol neu emosiynol

  • Natur dawedog pan fo person penodol yn bresennol
  • Cilio’n ôl neu newid yng nghyflwr seicolegol y person
  • Diffyg cwsg
  • Diffyg hunan-barch
  • Ymddygiad anghydweithredol ac ymosodol
  • Newid mewn archwaeth, colli/magu pwysau
  • Arwyddion o ofid: dagreuol, dicter
  • Honiadau sydd i’w gweld yn ffug, gan rywun sy’n gysylltiedig â’r person, i ddenu triniaeth ddiangen

Methiant i gael mynediad at ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod yn wyneb cymryd risgiau, methiant i roi meddyginiaeth a ragnodwyd, methiant i gynorthwyo gyda hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeuluso emosiynol. (Gweler hefyd hunan-esgeuluso)

Mathau o esgeuluso

  • Methiant i ddarparu neu ganiatáu mynediad at fwyd, lloches, dillad, gwresogi, symbyliad a gweithgarwch, gofal personol neu feddygol.
  • Darparu gofal mewn ffordd nad yw’r person yn ei hoffi.
  • Methiant i roi meddyginiaeth fel a ragnodwyd Gwrthod mynediad i ymwelwyr.
  • Peidio ag ystyried anghenion diwylliannol, crefyddol neu ethnig unigolion.
  • Peidio ag ystyried anghenion addysgol, cymdeithasol a hamdden.
  • Anwybyddu neu ynysu’r person.
  • Atal y person rhag gwneud ei benderfyniadau ei hun.
  • Atal mynediad at sbectol, cymhorthion clyw, dannedd gosod a.y.b.
  • Methiant i sicrhau preifatrwydd ac urddas.

Arwyddion posibl o esgeulustod:

  • Amgylchedd gwael – brwnt neu anhylan.
  • Cyflwr corfforol a/neu hylendid personol gwael.
  • Briwiau pwysau neu wlserau.
  • Diffyg maeth neu golli pwysau heb eglurhad.
  • Anafiadau a phroblemau meddygol heb eu trin.
  • Cyswllt anghyson neu gyndyn â sefydliadau gofal meddygol a chymdeithasol.
  • Croniad o feddyginiaeth heb ei chymryd.
  • Methiant annodweddiadol i ryngweithio’n gymdeithasol.
  • Dillad amhriodol neu annigonol.

Mewn perthynas â phobl y gall fod ganddynt anghenion am ofal a chymorth -.

Mae'r arwyddion posibl o hyn yn cynnwys:

  • newid annisgwyl i’w hewyllys.
  • gwerthu neu drosglwyddo’r cartref yn sydyn.
  • gweithgarwch anarferol mewn cyfrif banc.
  • cynnwys enwau ychwanegol yn sydyn ar gyfrif banc.
  • y llofnod ddim yn debyg i lofnod arferol y person.
  • cyndynrwydd neu orbryder gan y person wrth drafod ei faterion ariannol.
  • rhoi rhodd sylweddol i ofalwr neu drydydd parti.
  • diddordeb mwyaf sydyn gan berthynas neu drydydd parti yn lles y person
  • biliau’n mynd heb eu talu.
  • cwynion bod eiddo personol ar goll.
  • dirywiad mewn ymddangosiad personol a all ddynodi bod diet a gofynion personol yn cael eu hanwybyddu.
  • ynysu bwriadol oddi wrth ffrindiau a theulu a hynny’n rhoi rheolaeth lwyr i berson arall ar benderfyniadau.

Mae galluedd yn ffactor hynod arwyddocaol i ddeall sefyllfaoedd o hunan-esgeuluso ac ymyrryd ynddynt.

Gall hunan-esgeuluso ddigwydd o ganlyniad i ddewis unigolyn o ran ei ffordd o fyw, neu gall y person:

  • fod yn isel ei ysbryd,
  • bod yn wael ei iechyd,
  • bod â phroblemau gwybyddol (cof neu wneud penderfyniadau), neu fod heb allu corfforol i ofalu amdano’i hun.

Mathau o hunan-esgeuluso

  • Diffyg hunan-ofal i’r graddau bod hynny’n fygythiad i iechyd a diogelwch personol.
  • Peidio â gofalu am ei hylendid personol, ei iechyd neu ei amgylchoedd ei hun.
  • Anallu i osgoi hunan-niwed.
  • Methiant i geisio help neu fynediad at wasanaethau i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Anallu neu amharodrwydd i reoli ei faterion personol ei hun.

Arwyddion o hunan-esgeuluso:

  • Hylendid personol gwael iawn.
  • Ymddangosiad anniben.
  • Diffyg bwyd, dillad neu loches hanfodol.
  • Diffyg maeth a/neu ddysychiad.
  • Byw dan amodau aflan neu afiach.
  • Peidio â chynnal a chadw’r aelwyd.
  • Celcio.
  • Casglu nifer fawr o anifeiliaid dan amodau amhriodol.
  • Diffyg cydymffurfio â gwasanaethau iechyd neu ofal.
  • Anallu neu amharodrwydd i gymryd meddyginiaeth neu drin afiechyd neu anaf.

 

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Caiff ystod o fathau o drais eu cydnabod o dan y term Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Defnyddir llawer o'r termau hyn fel termau ymbarél, ac nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd, mae'r rhain yn cynnwys:

Trais ar Sail Rhywedd (GBV)
Mae trais ar sail rhywedd yn golygu trais sy'n cael ei gyfeirio at berson yn seiliedig ar rywedd. Mae'n torri'r hawl sylfaenol i fywyd, rhyddid, diogelwch, urddas,cydraddoldeb rhwng menywod a dynion, peidio â gwahaniaethu ac uniondeb corfforol a meddyliol (Cyngor Ewrop, 2011).

Trais rhwng partneriaid agos
Mae trais rhwng partneriaid agos yn ymddygiad gan bartner agos neu gynbartner sy'n achosi niwed corfforol, rhywiol neu seicolegol, gan gynnwys ymddygiad ymosodol corfforol, gorfodaeth rywiol, cam-drin seicolegol, cam-drin economaidd ac ymddygiadau rheoli (Sefydliad Iechyd y Byd, 2017)

Trais a cham-drin domestig
Defnyddir y term trais a cham-drin domestig i gyfeirio at drais mewn lleoliad domestig, gan gynnwys trais rhwng partneriaid agos, ond gall y term hefyd gwmpasu trais plentyn i riant neu gam-drin pobl hŷn neu gamdriniaeth gan unrhyw aelod o deulu neu aelwyd.

Trais a cham-drin rhywiol
Mae trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn cynnwys unrhyw weithred rywiol, ymgais i gael gweithred rywiol, neu weithred arall a gyfeirir yn erbyn rhywioldeb unigolyn gan ddefnyddio gorfodaeth, gan unrhyw berson beth bynnag yw ei berthynas â'r dioddefwr, mewn unrhyw leoliad (Sefydliad Iechyd y Byd, 2012b). Gall gweithredoedd treisgar rhywiol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau a gallant gynnwys treisio o fewn priodas neu o fewn perthynas; trais gan ddieithriaid; cam-drin plant yn rhywiol; puteindra gorfodol neu fasnachu pobl at ddibenion camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol (Krug et al., 2002).

Rheolaeth drwy orfodaeth
Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu'n batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, bychanu a dychrynu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr. Mae'r ymddygiad rheoli hwn wedi'i fwriadu i wneud person yn ddibynnol trwy eu hynysu rhag cymorth, camfanteisio arnynt, eu hamddifadu o annibyniaeth a rheoli eu hymddygiad bob dydd (Cymorth i Fenywod, 2020b). Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn aml yn cynnwys trais corfforol a gorfodaeth rywiol ac mae tystiolaeth bod achosion sy'n ymwneud â rheoli drwy orfodaeth yn fwy tebygol o arwain at niwed difrifol, gan gynnwys lladdiad domestig, nag achosion sy'n cynnwys gweithredoedd ar wahân o drais corfforol (Myhill and Hohl, 2019)

Priodas dan Orfod
Priodas dan orfod yw pan nad yw un o'r ddau berson neu'r ddau ohonynt yn cydsynio i'r briodas (neu mewn achosion o bobl sydd â rhai anableddau dysgu, pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny) a bod pwysau neu gamdriniaeth yn cael ei ddefnyddio. Caiff ei gydnabod fel math o drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig/cam-drin plant, math o gaethwasiaeth fodern, a throsedd difrifol yn erbyn hawliau dynol.

Priodas plentyn
Mewn perthynas â phriodas plentyn, ystyrir nad yw unrhyw blentyn (o dan 18 oed) yn gallu dewis priodi o'i wirfodd. Mae cymhlethdodau'n codi pan fo hawl gyfreithiol i blentyn briodi'n gynharach (o 16 oed) gyda chaniatâd rhiant, fel yn y DU.

Cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir
I rai cymunedau, ystyrir bod y cysyniad o 'anrhydedd' yn hynod bwysig, mae peryglu 'anrhydedd' teulu yn dod ag amarch a chywilydd a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol. Gall y gosb am ddod ag amarch fod yn gam-drin emosiynol, cam-drin corfforol, diarddel o'r teulu ac mewn rhai achosion hyd yn oed llofruddiaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion o gam-drin ar sail anrhydedd fel y'i gelwir mae sawl un yn cyflawni'r trosedd.

Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod (FGM)
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cynnwys pob arfer sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu'n llwyr, achosi anaf arall iddynt, neu newid organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol.

Caethwasiaeth Fodern/Masnachu Pobl
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd difrifol sy'n torri hawliau dynol. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys dal person mewn swydd o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfodaeth neu orfodol, neu hwyluso ei daith gyda’r bwriad o gamfanteisio arno’n fuan wedyn. Caiff dioddefwyr eu gorfodi, eu bygwth neu eu twyllo i sefyllfaoedd o ddarostyngiad, diraddiad a rheolaeth sy'n tanseilio eu hunaniaeth bersonol a'u hymdeimlad o'r hunan. O fewn hyn, mae masnachu pobl yn cynnwys camfanteisio gorfodol ar eraill, fel arfer at ddibenion rhywiol neu lafur.

Er bod masnachu mewn pobl yn aml yn cynnwys elfen drawsffiniol, mae hefyd yn bosibl bod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yn eich gwlad eich hun. Mae’n bosibl bod yn ddioddefwr hyd yn oed os rhoddwyd cydsyniad i gael eich symud.

Ni all plant roi cydsyniad i rywun gamfanteisio arnynt, felly nid oes angen i’r elfen o orfodaeth neu dwyll fod yn bresennol i brofi bod trosedd wedi digwydd.

Aflonyddu rhywiol
Caiff aflonyddu rhywiol ei ddiffinio fel ymddygiad rhywiol digroeso. Mae hyn yn cynnwys derbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun digroeso a/neu anweddus, neu gynigion anweddus a/neu amhriodol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol

Trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc.
Mae trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, a elwir hefyd yn gam-drin mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, yn cyfeirio at gam-drin partner mewn perthynas neu bartner rhywiol yn emosiynol, yn gorfforol neu'n rhywiol lle mae o leiaf un person yn ei arddegau.

Troseddau Casineb
Ystyr Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn meddwl ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag at y dioddefwr oherwydd ei hil, ei grefydd, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei anabledd neu am ei fod yn drawsryweddol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Droseddau Casineb (gan gynnwys sut i roi gwybod am drosedd casineb) ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin. Troseddau Casineb.