Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt

Dylai pob gweithiwr fod yn effro i'r posibilrwydd o gam-drin. Gall unigolyn bryderu am ddiogelwch neu les unigolyn mewn sawl ffordd:

  • Efallai y bydd y person yn dweud wrthych.
  • Efallai y bydd y person yn dweud rhywbeth sy'n peri pryder i chi.
  • Efallai y bydd trydydd parti yn lleisio pryderon.
  • Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth – digwyddiad neu anaf neu arwydd arall.

Gall staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr fod yn 'llygaid a chlustiau' y Cyngor, wrth iddynt wneud eu swyddi o ddydd i ddydd, oherwydd mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Dyma enghreifftiau o'r rhain:

  • Swyddogion Tai – mae sawl adolygiad o blant ac oedolion sy'n cael eu niweidio wedi nodi pwysigrwydd Swyddogion Tai, sydd â mewnwelediad unigryw i fywydau teuluoedd ac sy'n gallu adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio.
  • Rheoli Gwastraff – mae casglwyr sbwriel yn mynd i'r un tai a chymunedau bob wythnos a gallant sylwi pryd y gallai plentyn fod yn dioddef neu mewn perygl o gamdriniaeth.
  • Parciau a Gerddi – gall staff neu gontractwyr fod yn effro i fannau lle mae plant a phobl ifanc yn ymgynnull, ac adnabod ymddygiadau sy'n peri pryder a allai ddangos bod rhyw fath o gamdriniaeth neu gamfanteisio yn digwydd.
  • Iechyd yr Amgylchedd – yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd wrth arolygu safleoedd, gall swyddogion ystyried materion diogelu y gallent ddod ar eu traws, mewn safleoedd trwyddedig, gwestai neu gartrefi pobl.

Mae gan unrhyw berson sy'n gyfrifol am blant neu oedolion sydd mewn perygl neu sy'n gweithio gyda nhw, mewn unrhyw swydd boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ddyletswydd gofal tuag atynt yn gyfreithiol ac yn gontractiol ac fel dinesydd moesol cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ymddwyn mewn modd nad yw'n bygwth pobl, yn eu niweidio neu'n eu rhoi mewn perygl o niwed gan eraill.

Mae gan bob rhan o'r gweithlu gyfrifoldeb i ymddwyn yn eu bywydau preifat mewn modd nad yw'n peryglu eu sefyllfa yn y gweithle neu sy'n codi cwestiynau ynglŷn â pha mor addas ydynt i weithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl. Mae hyn yn eglur yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru (adran 5)

Mae'r ddyletswydd i roi gwybod yn ofyniad cyfreithiol a bydd methu â rhoi gwybod yn briodol yn cael ei ystyried yn fater difrifol.

Nid cyfrifoldeb unrhyw un unigolyn yw penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd ai peidio neu a yw unigolyn mewn perygl o niwed; fodd bynnag, mae ganddo gyfrifoldeb i weithredu os oes ganddo unrhyw bryderon.

Nid rôl Cynghorau yn unig yw diogelu plant ac oedolion, mae'n gofyn am weithio amlasiantaeth effeithiol a chydweithrediad y gymuned ehangach ac asiantaethau partner, i ddatblygu a gweithredu gweithgarwch cydlynol, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth leol, a gaiff ei rhannu'n briodol. Mae gan gynghorau rôl arweinyddiaeth ac eiriolaeth unigryw yn lleol ac yn gymunedol, gan weithio ochr yn ochr â'r gymuned, yr heddlu a chyrff cyhoeddus eraill, i sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn aros yn ddiogel yn y mannau lle maent yn byw ac yn cwrdd. Ni ddylid ystyried bod cam-drin yn digwydd yng nghartref y teulu yn unig. Mae angen deall ac ymateb hefyd i risg a niwed y tu allan i gartref y teulu, er mwyn creu mannau diogel i bobl Sir Gaerfyrddin.